Mae Alyn Smith, aelod seneddol yr SNP, dan y lach am alw am wahardd aelodau croenddu ac anabl o gorff llywodraethu’r blaid, yn ôl adroddiadau.

Mae’n dweud bod ymestyn y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol i 42 o aelodau’n “arbrawf sydd wedi methu”.

“Mae cydraddoldebau’n agos at fy nghalon ond nid mor agos ag annibyniaeth,” meddai mewn e-bost sydd wedi cael ei hanfon at The Sun.

“Mae gormod o ocsigen y blaid wedi mynd tuag at drafod materion ymylol fel diwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd.”

Awgrymodd y gellid creu “fforwm cydraddoldebau” drwy ddod â menywod, pobol o gefndiroedd BAME a phobol ag anableddau ynghyd.

Ond mae’n cael ei gyhuddo gan grwpiau ymgyrchu lleiafrifol o geisio eu symud o’r neilltu “am fentro codi eu dehongliad o’r hyn sy’n bwysig”, a chan y Blaid Lafur o “roi annibyniaeth uwchlaw popeth arall”.