Mae tîm rygbi’r gynghrair Catalan Dragons wedi cael sicrwydd na fydd cyfyngiadau teithio’r coronafeirws yn amharu ar eu gallu i chwarae yng nghynghrair y Super League.
Mae ganddyn nhw bum gêm yn olynol yn Lloegr, ac mae disgwyl iddyn nhw herio Leeds ar Fedi 7.
Ond mae’r Swyddfa Dramor yn cynghori pobol i beidio â theithio i Ffrainc, lle mae’r tîm yn chwarae yn Perpignan.
Mae disgwyl i gwarantîn gael ei gyflwyno hefyd, ar ôl i nifer yr achosion yn Ffrainc godi i’w lefel uchaf ers llacio’r cyfyngiadau.
Dim ond tair gêm mae’r tîm wedi’u chwarae hyd yn hyn eleni, ond mae disgwyl i dimau rygbi’r gynghrair gael eu heithrio o unrhyw gyfyngiadau fel bod modd iddyn nhw chwarae yn y gynghrair a’r Challenge Cup.
Mae’r eithriad yn golygu na fydd rhaid i chwaraewyr fynd i gwarantîn 14 diwrnod.