Mae Jamie Clarke o Lanelli mewn sefyllfa gref wrth ailddechrau ei gêm yn erbyn Anthony McGill yn ail rownd Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Mae gan y Cymro flaenoriaeth o chwe ffrâm i ddwy dros nos yn y Crucible, ar ôl iddo guro Mark Allen o Ogledd Iwerddon yn y rownd gyntaf.

Aeth e ar y blaen yn gynnar yn yr ornest gyda rhediad o 60 yn y drydedd ffrâm, cyn cipio’r bedwaredd, y bumed a’r chweched hefyd i’w roi e ar y blaen o bum ffrâm i un.

Manteisiodd Clarke ar gamgymeriad ei wrthwynebydd yn y seithfed ffrâm i ymestyn ei fantais ymhellach gyda rhediad o 60.

Ond cipiodd yr Albanwr y ffrâm olaf i leihau mantais Clarke rywfaint.