Mae tîm criced Morgannwg yn teithio i Gaerwrangon heddiw (dydd Sadwrn, Awst 8) i herio Swydd Gaerwrangon yng nghystadleuaeth pedwar diwrnod Tlws Bob Willis.

Bydd y sir Gymreig yn awyddus i wneud yn iawn am y golled yng Ngwlad yr Haf yn eu gêm gynta’r wythnos ddiwethaf.

Mae un newid yn y garfan, sef fod yr Iseldirwr Timm van der Gugten yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i’w ffêr, tra bod yr Albanwr Ruaidhri Smith yn colli allan ar ôl anafu llinyn y gâr.

Gêm ddigon cyffrous gafwyd yn New Road y tymor diwethaf, wrth i Daryl Mitchell sgorio 139 i’r tîm cartref yn yr ail fatiad, wrth i Forgannwg orfod cwrso nod o 312 gyda diwrnod a hanner yn weddill. Ond colli o 155 o rediadau oedd eu hanes.

Ond Morgannwg oedd yn fuddugol ar eu hymweliad yno yn 2017, a hynny o naw wiced.

Cymro Cymraeg oedd yn ei chanol hi yn 2016, wrth i Owen Morgan o Bontarddulais ddod y noswyliwr cyntaf i daro canred i Forgannwg ac ar yr un pryd, fe sgoriodd ei ganred cyntaf i’r sir i arwain Morgannwg i fuddugoliaeth o bum wiced wrth gwrso 277 i ennill.

Swydd Gaerwrangon: D Mitchell, J Libby, T Fell, J Haynes, B D’Oliveira, R Wessels, B Cox, E Barnard, J Leach (capten), D Pennington, C Morris

Morgannwg: C Hemphrey, N Selman, K Carlson, B Root, C Cooke, D Douthwaite, T Cullen, K Bull, G Wagg, T van der Gugten, M Hogan

Sgorfwrdd