Mae Mark Williams wedi curo Stuart Bingham i fynd drwodd i rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd.
Roedd hi’n gystadleuaeth agos gyda’r ddau gyn-bencampwr y byd yn mynd ben ben a’i gilydd.
Ar un adeg roedd y ddau ar 11 ffrâm yr un – yn y pen draw Mark Williams enillodd o 13 i 11.
Mae Mark Williams wedi bod yn bencampwr y byd yn 2000, 2003 a 2018 a bydd yn wynebu Ronnie O’Sullivan neu Ding Junhui yn rownd yr wyth olaf eleni.