Mae Aelod o’r Senedd wedi dweud ei bod “dan anfantais” yn y Senedd am fod darlledwyr yn “gyndyn iawn” o ddarlledu cyfraniadau Cymraeg.

Daw’r sylwadau gan Siân Gwenllian wrth i ffigurau ddangos cwymp yn nefnydd y Gymraeg gan Aelodau’r Senedd.

Mae AS Arfon yn cyfrannu yn bennaf yn y Gymraeg, ac mae hi’n awgrymu bod ei chyd-Aelodau yn dewis peidio defnyddio’r iaith yn y siambr oherwydd nad yw darlledwyr yn darlledu cyfraniadau Cymraeg ar y teledu.

“Dw i’n deall i raddau pam fod Aelodau yn defnyddio Saesneg yn y Siambr pan maen nhw am i’w cyfraniadau gael sylw ar raglenni newyddion Saesneg,” meddai Siân Gwenllian wrth golwg360.

“Mae’r darlledwyr yn gyndyn iawn o ddefnyddio clipiau Cymraeg gydag is-deitlo neu drosleisio Saesneg yn eu bwletinau.

“Dw i ddim yn meddwl fod hynny erioed wedi ei wneud gyda chyfraniad gen i yn y Siambr, sy’n fy rhoi dan anfantais mewn gwirionedd gan mai yn y Gymraeg y gwnaf fy nghyfraniadau.

“Efallai ei bod hi’n bryd i’r drafodaeth honno ddigwydd ac i’r darlledwyr fabwysiadu arferion mwy blaengar allai yn ei dro arwain at gynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg ar lawr y Siambr.”

Mae hefyd yn nodi bod y cwymp yn nefnydd y Gymraeg ymysg Aelodau’r Senedd yn “siomedig”.

“Esiampl i weddill Cymru”

Mae defnydd y Gymraeg wedi cwympo am y drydedd flwyddyn yn olynol mewn cyfarfodydd llawn yn y Siambr ac mewn pwyllgorau, yn ôl ffigurau’r Senedd.

Bu cwymp hefyd o ran y cwestiynau llafar, cwestiynau ysgrifenedig, cwestiynau amserol, a gwelliannau sy’n cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, mae’n bwysig bod Aelodau o’r Senedd “yn rhoi esiampl i weddill Cymru” trwy ddefnyddio’r Gymraeg.

“Mae’n bwysig bod rhai sydd mewn sefyllfaoedd o ddylanwad – ac yn benodol, Aelodau o’r Senedd – yn defnyddio’r Gymraeg mor aml â phosib,” meddai Heini Gruffudd wrth golwg360.

“Mae’n rhaid edmygu llawer o Aelodau o’r Senedd am ddysgu’r Gymraeg mor wych. Ond mae angen iddyn nhw ddangos esiampl nid yn unig i bobol eraill yn y Senedd ond i’r wlad yn gyffredinol.”

Rhaid i ASau “rhoi esiampl” i gynghorau lleol a chyrff cyhoeddus, ychwanega, gan “wneud pawb yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn lle bod yr iaith yn dal i gael ei chuddio”.

Herio’r gweinidogion

Mae Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith yn teimlo bod cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg “cyn bwysiced os nad yn bwysicach na niferoedd yn y pendraw”, meddai.

A gan atseinio sylwadau diweddar gan Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae Heini Gruffudd yn gresynu bod datganiadau llafar gweinidogion Llywodraeth Cymru yn Saesneg yn bennaf.

Mae llawer o gyrff cyhoeddus eisoes wedi derbyn yr egwyddor y dylid cyhoeddi dogfennau yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg, ond mae Heini Gruffudd yn dadlau bod modd mynd ymhellach.

Mae’n teimlo y dylai pob datganiad yn y Siambr fod yn ddwyieithog, ac mae’n credu y dylai datganiadau llafar cyrff cyhoeddus fod yn Gymraeg hefyd – yn yr un ffordd ag y mae eu dogfennau.

Y ffigurau

Math o gyfraniad Canran y cyfraniadau Cymraeg 2017-2018 Canran y cyfraniadau Cymraeg 2018-2019 Canran y cyfraniadau Cymraeg 2019-2020
Trafodion y Cyfarfod Llawn yn y Siambr 20% 18% 16%
Trafodion Pwyllgorau

 

8% 7% 6%

 

Blwyddyn Cwestiynau Llafar Cwestiynau Ysgrifenedig Cynigion Gwelliannau Datganiadau Barn Cwestiynau Amserol
2017-18 13% 7% 2% 7% 2% 10%
2018-19 11% 10% 3% 14% 5% 15%
2019-20 8% 8% 4% 4% 0% 9%

 

Daw’r ffigurau o ddogfen Cynllun Ieithoedd Swyddogol: Adroddiad Blynyddol 2019-2020 y Senedd.

A gallwch ddarllen rhagor am y stori, gan gynnwys sylwadau’r Llywydd a Chomisiynydd y Gymraeg, yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.