Mae British Airways wedi cyhoeddi eu bod nhw’n diswyddo 4,000 o weithwyr.

Mae criw caban, peirianwyr a staff y maes awyr ymhlith y rhai sydd wedi derbyn e-bost gan y cwmni yn rhoi gwybod a ydyn nhw’n cael eu diswyddo ai peidio.

“Mae heddiw yn ddiwrnod llwm iawn i weithlu anhygoel BA”, meddai Howard Beckett, ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite.

“Bydd heddiw hefyd yn mynd i lawr mewn hanes fel y diwrnod penderfynodd y cwmni hedfan roi buddiannau’r bwrdd o flaen ei deithwyr a’i weithlu.

“Mae’r gweithwyr hyn wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i’r cwmni, rhai cymaint â 40 mlynedd, ac yn wir i’n gwlad, gan fod llawer wedi bod yn gyfrifol am gludo dinasyddion Prydeinig yn ôl gartref ar ddechrau’r pandemig.”

Mae British Airways yn mynnu eu bod yn ceisio “amddiffyn cymaint o swyddi â phosib”.

Dywedodd y cwmni bod mwy na 6,000 o weithwyr wedi gwneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.

Cyhoeddodd IAG, perchennog British Airways, fis Ebrill y byddai’n rhaid cael gwared â hyd at 12,000 o swyddi o blith gweithlu o 42,000 oherwydd pandemig coronafirws.

Toriadau cyflog

Mae’r rheini sy’n cadw eu swyddi yn wynebu toriad cyflog.

Mae’r mwyafrif yn wynebu gostyngiad o leiaf 20% yn eu cyflog, er bod rhai gweithwyr yn honni bydd eu hincwm wedi haneru oherwydd amodau eu swyddi.

Ond mae adroddiadau y bydd 40% o griw caban y cwmni, y rhai ar ben isaf y raddfa gyflog, yn derbyn cynnydd bach yn eu cyflog.