Yn dilyn cynnydd mewn cwynion gan y cyhoedd, mae’r heddlu yn Sir Benfro wedi penderfynu targedu gyrwyr anghyfrifol sy’n bod yn niwsans.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn nifer o gwynion yn ddiweddar am gerbydau yn teithio ar gyflymder peryglus yng ngogledd Sir Benfro.

“Ers lleddfu cyfyngiadau cloi, rydym wedi gweld cynnydd mewn traffig yn Sir Benfro, a chynnydd yn nifer yr adroddiadau o yrru gwrthgymdeithasol”, meddai’r Rhingyll Justin Williams, un o swyddogion yr Uned Plismona Ffyrdd.

“Byddwn yn rhybuddio gyrwyr sy’n achosi braw, gofid neu annifyrrwch, ac os fydd y gyrwyr yn parhau i gamymddwyn, gellir mynd a’u cerbyd oddi arnyn nhw.

“Y cyfan rydyn ni’n gofyn yw bod pobol yn parchu’r bobol eraill sy’n byw yn yr ardal, yn ogystal â’r ymwelwyr sy’n dod i fwynhau Sir Benfro bob haf.”