Fe wnaeth Jake Libby, cyn-fyfyriwr Prifysgolion Caerdydd yr MCC, a’i bartner Brett D’Oliveira daro canred yr un i gosbi Morgannwg ar ddiwrnod cynta’r gêm pedwar diwrnod yn Nhlws Bob Willis yng Nghaerwrangon.

Daeth ei ganred yn ei gêm gartref gyntaf i’r sir ar ôl symud o Swydd Nottingham, lle sgoriodd e bum canred arall, ac fe lwyddodd e i fatio trwy gydol y dydd.

Daeth ei ganred oddi ar 205 o belenni ac erbyn diwedd y dydd, roedd e heb fod allan ar 142, dau rediad yn brin o’i sgôr gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf.

Hyd yn hyn, mae e wedi taro un chwech ac 14 pedwar ond fe allai’r cyfan fod wedi dod i ben ar 43 pan gafodd ei ollwng gan Charlie Hemphrey.

Y pen arall i’r llain, tarodd Brett D’Oliveira ganred hefyd, a gorffen heb fod allan ar 123, wrth i’r ddau adeiladu partneriaeth bedwaredd wiced o 239, sy’n record i’r sir yn erbyn Morgannwg.

Tarodd D’Oliveira un chwech a 15 pedwar, ond cafodd hwnnw ei ollwng hefyd ar 67 gan Hemphrey.

Erbyn diwedd y dydd, roedd y Saeson yn 309 am dair.

Achubiaeth

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, y tîm cartref oedd dan bwysau yn ystod sesiwn y bore, wrth i Michael Hogan gipio tair wiced i Forgannwg.

Cafodd Jack Haynes ei ddal gan Dan Douthwaite wrth fachu, a hynny ar ôl i Tom Fell a Daryl Mitchell ill dau gael eu dal gan y wicedwr Chris Cooke.

Ond wrth i D’Oliveira a Libby ddod ynghyd, fe wnaethon nhw gymryd yr awennau a rhoi bowlwyr Morgannwg dan bwysau am weddill y dydd.

Ymateb Jake Libby

Ar ddiwedd y dydd, dywedodd Jake Libby ei fod e’n teimlo’n “emosiynol”.

“Dw i wedi cael sawl blwyddyn anodd felly ar nodyn personol, roedd hi’n wych cael y canred ac mae wedi bod yn ddiwrnod gwych i’r tîm,” meddai.

“Ro’n i braidd yn siomedig ym Mryste nad o’n i wedi bwrw ymlaen a chael y canred.

“Roedd hon yn llain dda i fatio arni ac fe wnes i fanteisio arni heddiw.

“Collon ni dair wiced am 70 bore ’ma ac roedd cael partneriaeth o’r fath a batio’r diwrnod cyfan gyda Dolly yn wych.

“Rydyn ni hefyd wedi sgorio ar gyfradd dda ac ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod da.”