Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod angen Wayne Routledge ar y clwb.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r asgellwr a blaenwr 35 oed lofnodi cytundeb newydd ar drothwy ei ddegfed tymor yn Stadiwm Liberty.

Roedd e’n aelod allweddol o’r tîm yn yr Uwch Gynghrair a’r tîm a gododd Gwpan Capital One yn 2013, gan fynd yn ei flaen i chwarae yng Ngynghrair Europa.

Ac mae’n dal i fod yn aelod blaenllaw o’r garfan yn y Bencampwriaeth, gan gyfrannu at sawl canlyniad cofiadwy, gan gynnwys y buddugoliaethau dros Gaerdydd yn y gynghrair a Reading i gyrraedd y gemau ail gyfle.

“Cyhyd ag y bydd e’n parhau, fydd Wayne fyth yn colli’r doniau hynny,” meddai Steve Cooper.

“Mae ganddo fe’r fath dechneg wych fel ei fod e’n gallu driblo a derbyn y bêl mewn lle cyfyng.

“Dw i ddim eisiau siarad amdano fe fel pe bai e’n dod i ddiwedd ei yrfa.

“Fyddwn i na fe ddim yn gwneud hyn oni bai ein bod ni’n teimlo ei fod e’n gallu cyfrannu.

“Bydd angen profiad arnon ni yn y llefydd cywir ac mae e’n cynnig hynny, ond mae e’n cynnig cymaint o safon hefyd.

“Mae treulio deng mlynedd gyda chlwb, a saith ohonyn nhw yn yr Uwch Gynghrair, yn tanlinellu pa mor dda yw e.

“Roedd e’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair cyn dod yma hefyd.”

Ond mae ei rinweddau’n ymestyn y tu hwnt i’r cae hefyd, yn ôl Steve Cooper.

“Dw i’n hoff iawn ohono fe,” meddai.

“Rydyn ni’n trafod y gêm dipyn ac mae e’n nes o lawer at fy oedran i na rhan fwya’r chwaraewyr mewn carfan ifanc.

“Mae e’n agored ac yn dryloyw, rydyn ni’n ymddiried go iawn yn ein gilydd ac mae e’n rhywun dw i ei angen o gwmpas y lle.”