Bydd tîm pêl-droed Cei Connah yn herio Sarajevo yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Awst 18 neu 19.

Ar ôl clywed pwy fydd eu gwrthwynebwyr, fe wnaeth y rheolwr Andy Morrison drydar.

“Byddai’r tri thîm ar y rhestr ddetholion yn eistedd a chroesi eu bysedd a gweddïo y bydden nhw’n cael Cei Connah,” meddai.

“Bosniaid amdani.”