Taith i Ynysoedd Faröe fydd gan dîm pêl-droed y Barri yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.
Byddan nhw’n herio NSÍ Runavík mewn gêm un cymal ar Awst 20.
Cafodd y clwb yn Ynysoedd Faröe ei sefydlu yn 1957, ond doedden nhw ddim wedi chwarae yn Ewrop tan 2003.
Enillon nhw Uwch Gynghrair y wlad am yr unig dro yn eu hanes yn 2007, ond maen nhw wedi ennill y gwpan dair gwaith – yn 1986, 2002 a 2017.
Maen nhw’n chwarae’n aml yng Nghynghrair Europa erbyn hyn ond dydyn nhw erioed wedi ennill yn y rownd ragbrofol gyntaf.
Roedden nhw’n drydydd yn yr Uwch Gynghrair genedlaethol y tymor diwethaf, gan sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth Ewropeaidd, ac maen nhw’n bedwerydd yn y gynghrair ar hyn o bryd y tymor hwn.
Mae pob un o chwaraewyr y tîm yn dod o Ynysoedd Faröe.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal y tu ôl i ddrysau caëedig am resymau diogelwch ac er mwyn peidio â rhoi mantais i’r tîm sy’n chwarae gartref.