Mae Morgannwg yn dal i frwydro’n galed yng Nghaerwrangon, gan orffen ail ddiwrnod y gêm pedwar diwrnod yn Nhlws Bob Willis ar 181 am ddwy yn eu batiad cyntaf.
Maen nhw’n ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Swydd Gaerwrangon o 455 am wyth ar ôl gorfod cau’r batiad ar ddiwedd 120 o belawdau.
Adeiladodd Brett D’Oliveira a Jake Libby, cyn-fatiwr Prifysgolion Caerdydd yr MCC, record o bartneriaeth i’r sir gartref am unrhyw wiced, wrth sgorio 318 am y bedwaredd wiced wrth i’r gêm ddechrau llithro o afael Morgannwg.
Roedd y bartneriaeth yn rhagori ar ymdrechion Graeme Hick a Tim Curtis yng Nghastell-nedd yn 1986, pan sgorion nhw 287 am yr ail wiced.
Ac fe gyrhaeddodd Libby ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed, 184, gan guro’i 144 i Swydd Nottingham yn erbyn Durham bedair blynedd yn ôl.
Roedd e wrth y llain am fwy na saith awr, gan wynebu 319 o belenni a tharo un chwech a 18 pedwar.
Mae’n golygu ei fod e wedi sgorio 286 mewn tri batiad i’r sir hyd yn hyn.
Ben arall y llain, sgoriodd Brett D’Oliveira 174 i ychwanegu at ei ganred dwbwl yn erbyn Morgannwg yn 2016 a chanred yn eu herbyn y tymor diwethaf, pan gipiodd e naw wiced fel troellwr coes hefyd.
Daeth ei sgôr oddi ar 262 o belenni, gydag un chwech a 21 pedwar.
Ond daeth y bartneriaeth a batiad Jake Libby i ben pan gafodd ei stympio gan Chris Cooke oddi ar fowlio’r troellwr Kieran Bull, a’r sgôr yn 388 am bedair.
Cwympodd wicedi’n gyflym, serch hynny, ar ôl i Swydd Gaerwrangon gipio pwyntiau batio llawn drwy sgorio 400.
Cafodd Riki Wessels ei ddal gan Graham Wagg oddi ar ei fowlio’i hun ac fe ddaeth batiad D’Oliveira i ben pan gafodd ei ddal yn isel gan y wicedwr Cooke wrth geisio ergyd i lawr ochr y goes.
Daeth trydedd wiced i Graham Wagg pan gafodd Ed Barnard ei ddal ar y ffin ar ochr y goes wrth yrru’n syth at Michael Hogan, sydd un wiced yn brin o 600 o wicedi dosbarth cyntaf yn ei yrfa.
Cafodd y capten Joe Leach ei ddal ar ochr y goes am 17 wrth geisio ergyd dros y ffin ac fe ddaeth y batiad i ben ar ôl y belen nesaf wrth i Forgannwg fowlio’r uchafswm o 120 o belawdau.
Batiad Morgannwg
Tarodd y sir Gymreig yn ôl ar ôl i Ed Barnard waredu’r agorwyr Nick Selman, wedi’i ddal gan y wicedwr Ben Cox, a Charlie Hemphrey, wrth daro’i goes o flaen y wiced yn gynnar yn y batiad.
Mae Kiran Carlson a Billy Root yn dal wrth y llain ar ôl adeiladu partneriaeth ddi-guro o 137 mewn 44 pelawd, a hynny ar ôl dod ynghyd pan oedd y sgôr yn 44 am ddwy.
Mae Carlson heb fod allan ar 76 oddi ar 147 wrth daro 12 pedwar hyd yn hyn, tra bod Root wedi wynebu 134 o belenni, gan daro chwe phedwar i gyrraedd 53 heb fod allan.