Fe fydd Jamie Clarke, y chwaraewr snwcer o Lanelli, yn ail-gydio mewn gêm danllyd yn erbyn yr Albanwr Anthony McGill yn y Crucible yn Sheffield heno (nos Sul, Awst 9), wrth iddo ddechrau’r sesiwn ar y blaen o wyth ffrâm i saith.
Gyda’r sgôr yn 7-2 yn yr ornest ail rownd, fe wnaeth y ddau ffraeo pan gafodd y Cymro ei gyhuddo o sefyll yng ngolwg yr Albanwr wrth iddo baratoi i daro pêl felen hir.
Bu’n rhaid i’r dyfarnwr Jan Verhaas ymyrryd, gan orchymyn y Cymro i ddychwelyd i’w gadair o ben draw’r bwrdd.
Ar ôl i’r dyfarnwr geisio datrys y sefyllfa drwy ddweud nad oedd yn “broblem fawr”, roedd yr Albanwr yn dal i leisio’i farn a bu’n rhaid i’r dyfarnwr ddweud wrtho am “roi’r gorau iddi”.
Enillodd Jamie Clarke y ffrâm cyn gadael y llwyfan, gyda’r Albanwr yn ei ddilyn.
Ar ôl yr egwyl, enillodd Anthony McGill bum ffrâm yn olynol i’w gwneud hi’n 8-7 ar ddiwedd y sesiwn.