Mae Boris Johnson wedi mynnu bod gwledydd Prydain yn gryfach “gyda’i gilydd”.
Daw sylwadau’r Prif Weinidog wrth i arolygon barn awgrymu bod y gefnogaeth am annibyniaeth i’r Alban yn cynyddu, gydag un astudiaeth yn y Sunday Times yn dangos bod 54% o blaid pleidlais Ie mewn refferendwm, a 46% yn gwrthwynebu.
Dywedodd Boris Johnson mai undeb y Deyrnas Unedig “yw’r bartneriaeth wleidyddol orau yn y byd.”
“Dw i’n credu bod pobl yn y wlad yma yn aml ddim yn gwerthfawrogi sut mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei gweld dramor. Dy’n nhw ddim yn ein gweld ni fel Lloegr neu Gymru neu’r Alban neu Ogledd Iwerddon, beth maen nhw’n gweld yw sefydliadau Prydeinig gwych.”
Ychwanegodd y byddai’n “gymaint o drueni i golli grym” yr undeb.
“Ry’n ni’n llawer cryfach ac yn well gyda’n gilydd nac ar wahân,” meddai.
Fis diwethaf roedd y Prif Weinidog wedi ymweld â’r Alban mewn ymdrech i gryfhau’r gefnogaeth i’r undeb. Mae’r Sunday Times hefyd yn adrodd y bydd Boris Johnson yn teithio i’r wlad ar gyfer gwyliau gyda’i deulu dros y penwythnos.
Mae pedwar gweinidog o’r Cabinet, gan gynnwys y Canghellor Rishi Sunak hefyd wedi ymweld â’r Alban dros yr wythnosau diwethaf wrth i’r gefnogaeth am annibyniaeth gynyddu.
Wythnos diwethaf dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon ei bod yn creu bydd yr Alban yn annibynnol “yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.”