Mae plismones ac uwch ringyll wedi eu cyhuddo o ymddwyn yn amhriodol mewn gorsaf Heddlu yng Nghaerdydd.

Mae’r Heddwas Jemma Dicks wedi cyfaddef iddi gyflawni gweithred rywiol gyda’r Uwch Ringyll Adam Reed ar sawl achlysur rhwng Hydref 2017 ac Awst 2018 yng Ngorsaf Heddlu Caerdydd Canolog.

Dydd Llun (Awst 10) dywedodd Jemma Dicks wrth y gwrandawiad ym Mhencoed ei bod yn derbyn y cyhuddiadau yn ei herbyn, ac yn cydnabod iddi ymddwyn yn amhroffesiynol.

Dywedodd cyflwynydd yr achos, Barney Branston, mai dim ond canfyddiad o gamymddwyn difrifol a fyddai’n galluogi’r gwrandawiad i ddiswyddo’r heddwas o Heddlu De Cymru.

“Dywed y swyddog fod yr ymddygiad yn gyfystyr â chamymddwyn ond nid camymddwyn difrifol”, meddai Barney Branston.

Uwch Ringyll wedi ymddiswyddo

Clywodd y gwrandawiad fod yr Uwch Ringyll Adam Reed, sydd hefyd wedi’i gyhuddo o dri achos honedig o ymddygiad amhriodol, gan gynnwys gweithred rywiol gyda’r Heddwas Jemma Dicks, wedi ymddiswyddo ac na fyddai’n mynychu’r gwrandawiad.

Mae’r Uwch Ringyll Adam Reed hefyd wedi’i gyhuddo o gael rhyw gyda swyddog cymorth cymunedol dienw tra ei fod ar ddyletswydd yng nghanol Caerdydd fis Mai 2018.

Mae Adam Reed hefyd wedi ei gyhuddo o dynnu lluniau cudd o swyddog benywaidd.

Mae’r gwrandawiad yn parhau.