Mae Bobby Grant wedi gadael tîm pêl-droed Wrecsam ac wedi ymuno ar fenthyg ag Oldham am dymor cyfan.

Fe fydd yn chwarae yn yr Ail Adran ar ôl treulio’r tymor diwethaf ar fenthyg yn Accrington yn yr Adran Gyntaf.

Fe oedd prif sgoriwr Wrecsam yn ystod tymor 2019-20, gydag wyth gôl mewn 31 o gemau – a hynny er iddo dreulio cyfnod i ffwrdd o’r clwb.

Mae’n dweud ei fod e’n edrych ymlaen at “her newydd”.