Mae James Chester, amddiffynnwr canol Cymru, wedi ymuno â Stoke o Aston Villa.

Fe dreuliodd e ail hanner y tymor diwethaf ar fenthyg gyda’r clwb, a dyw e ddim wedi chwarae i Aston Villa ers mis Rhagfyr.

Yn gyn-gapten, chwaraeodd e 126 o weithiau i Aston Villa, ac mae’n gyn-enillydd Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr.

Roedd e’n aelod o’r garfan enillodd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ar gyfer y tymor hwn.

Wrth gyhoeddi ei ymadawiad, dywed y clwb ei fod e’n gadael “fel chwaraewr poblogaidd yn yr ystafell newyd a’r eisteddle”.