Tarodd Billy Root ganred ar drydydd diwrnod gêm pedwar diwrnod Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn Nhlws Bob Willis yn New Road i gadw’r sir yn y gêm ar y diwrnod olaf.

Mae Swydd Gaerwrangon ar y blaen o 179, ac maen nhw wedi sgorio 98 am ddwy yn eu hail fatiad hyd yn hyn.

Manylion

Roedd y batiwr llaw chwith Billy Root heb fod allan ar 53 ar ddechrau’r dydd, gyda Morgannwg yn 181 am ddwy ond fe lithron nhw o 185 am ddwy i 203 am chwech o fewn dim o dro, wrth i Joe Leach fowlio saith pelawd, pump ohonyn nhw’n ddi-sgôr, a chipio pedair wiced am dri rhediad.

Bryd hynny, roedd Morgannwg 53 rhediad yn brin o’r nod er mwyn osgoi gorfod canlyn ymlaen ond fe wnaeth Root eu harwain i ddiogelwch wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 374 – 81 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cynta’r tîm cartref.

Aeth yn ei flaen i sgorio 118 cyn iddo gael ei ddal yn gampus gan y wicedwr Ben Cox oddi ar fowlio Charlie Morris. Roedd ei fatiad yn cynnwys 12 pedwar oddi ar 258 o belenni, ac roedd e wedi llwyddo i oroesi ymgais i’w ddal yn y slip oddi ar fowlio’r troellwr Brett D’Oliveira ar 74.

Adeiladodd e a Graham Wagg (54) bartneriaeth seithfed wiced o 118 oddi ar 34 o belawdau cyn i Timm van der Gugten (23 heb fod allan) a Michael Hogan (17) adeiladu partneriaeth o 41 am y wiced olaf cyn te.

Dim ond tri rhediad ychwanegodd Kiran Carlson at ei sgôr yn ystod y bore wrth i Daryl Mitchell ei ddal yn y slip am 79, gan ddod â phartneriaeth o 141 gyda Root i ben ar ôl 47 o belawdau.

Cipiodd Joe Leach wiced arall yn ei belawd ganlynol, wrth i Chris Cooke yrru’n sgwâr a chael ei ddal yn isel gan Ed Barnard heb sgorio.

Daeth wiced nesaf Leach pan darodd y bêl ymyl bat Tom Cullen am un, ac fe gafodd ei ddal gan Mitchell.

Oddi ar belen ola’r belawd honno, fe wnaeth Dan Douthwaite fachu pelen gan Leach a chael ei ddal gan D’Oliveira, oedd wedi rhedeg cryn bellter o’r ffin.

Cyrhaeddodd Root ei ganred oddi ar 258 o belenni yn ystod partneriaeth a gynigiodd sefydlogrwydd i Forgannwg.

Cyrhaeddodd Graham Wagg ei hanner canred oddi ar 79 o belenni, ar ôl taro saith pedwar, cyn i Root yrru’r bêl ar gam at y wicedwr Cox oddi ar fowlio Morris, a’r wicedwr yn dal y bêl ag un llaw ymhell i’w ochr chwith.

Cyfunodd y ddau eto i waredu Kieran Bull cyn i Morris waredu Wagg am 54.

Ed Barnard oedd y daliwr oddi ar fowlio Dillon Pennington i waredu Hogan yn sgwâr ar yr ochr agored.

Gorffennodd Leach gyda phedair wiced am 67 oddi ar 26 o belawdau, Barnard dair wiced am 54 a Morris ddwy wiced am 86.

Ail fatiad Swydd Gaerwrangon

Adeiladodd Daryl Mitchell (48 heb fod allan) a Jake Libby (44) bartneriaeth wiced gyntaf o 97 i Swydd Gaerwrangon cyn i Libby a Leach golli eu wicedi cyn diwedd y dydd.

Roedd eu partneriaeth o hanner cant wedi dod o fewn 23 pelawd wrth i’r batwyr edrych yn gyfforddus cyn i Libby gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Dan Douthwaite.

Daeth Leach i’r llain yn gynt na’r disgwyl, ond fe gafodd ei ddal yn y slip gan Charlie Hemphrey oddi ar fowlio Kieran Bull oddi ar belen ola’r dydd.

Fe fydd Swydd Gaerwrangon, felly, yn gobeithio batio am gyfnod er mwyn mynd â’r gêm o afael Morgannwg ond pe bai’r bowlwyr yn gallu tanio yn y bore, mae’n addo bod yn ddiwrnod olaf digon cyffrous i’r sir Gymreig.