Mae’r Cymro Mark Williams mewn sefyllfa gref ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn y Crucible yn Sheffield, gyda blaenoriaeth o chwe ffrâm i ddwy yn erbyn Ronnie O’Sullivan yn rownd yr wyth olaf.

Mae Williams yn mynd am bedwerydd tlws Pencampwriaeth y Byd.

Enillodd e bum ffrâm o’r bron i sicrhau blaenoriaeth swmpus dros y Sais.

Cael a chael oedd hi yn nechrau’r ornest, wrth iddyn nhw ennill dwy ffrâm yr un cyn yr egwyl ganol y sesiwn, wrth i Ronnie O’Sullivan sgorio cant.

Ond y Cymro oedd y chwaraewr gorau o bell ffordd wedi’r egwyl, er gwaetha’r bumed ffrâm agos.

Cafodd e 72, 56 a 130 wrth gryfhau ei flaenoriaeth ar drothwy’r ail sesiwn heddiw (dydd Mawrth, Awst 11).