Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddau achos o fwrgleriaeth ac un lladrad yn Ninbych y Pysgod.

Fe ddigwyddodd y tri dros nos neithiwr (nos Sul, Awst 9 neu ddydd Llun, Awst 10).

Am oddeutu 2 o’r gloch fore heddiw, cafodd swm o arian ei ddwyn o focs elusennol gorsaf bad achub yr RNLI.

Ac fe wnaeth rhywun dorri i mewn i focs elusennol Cymdeithas y Shipwrecked Mariners a dwyn swm o arian.

Ac fe wnaeth rhywun wthio ffenest caffi Denis ar agor ger traeth y castell a dwyn y til, a gafodd ei ddarganfod yn ddiweddarach heb arian ynddo.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.