Mae Cered, y fenter iaith yng Ngheredigion, wedi cyhoeddi bod grŵp cymunedol Yr Hwb, Penparcau ar gyrion Aberystwyth, wedi ennill rownd sirol Brwydr y Bwgan Brain.
Menter iaith sy’n datblygu cynlluniau strategol yn ogystal â chymunedol yw Cered.
Bu cystadleuwyr ar draws Ceredigion yn anfon lluniau o’u bwganod brain ar y thema ‘Cymru’ i Cered, gyda’r beirniad a chyn-enillydd Fferm Ffactor, Aled Rees, yn dewis yr enillydd.
Bydd bwgan brain yr Hwb yn mynd yn ei flaen i gystadlu yn rownd genedlaethol y gystadleuaeth.
Cafodd cystadleuaeth eleni ei threfnu gan Fentrau Iaith ar draws Cymru gyfan gan fod nifer o sioeau bach lleol wedi eu canslo.
Bydd enillydd y rownd genedlaethol yn derbyn teitl Pencampwr Brwydr y Bwgan Brain ac yn derbyn darlun o waith yr artist Rhys Padarn Jones.
Y cyflwynydd radio a theledu Ifan Jones Evans fydd yn beirniadu’r rownd genedlaethol ac mi fydd Mentrau Iaith Cymru yn cyhoeddi’r enillydd cenedlaethol ar ddydd Llun (Awst 17).
‘Ymlaen i’r Genedlaethol’
“Mae hwn yn newyddion gwych, rydyn ni mor falch ein bod ni wedi cefnogi CERED ac wedi rhoi cynnig ar y gystadleuaeth. Ymlaen I’r Genedlaethol nawr,” meddai Karen Rees, Rheolwraig Yr Hwb.
Dywed Rheolwr Cered, Non Davies: “Mae wedi bod yn grêt gweld cymaint yn cael hwyl ac yn creu campweithiau.
“Ar adeg pan fo mwy ohonom yn treulio amser yn yr awyr agored mae’r gystadleuaeth nid yn unig wedi codi calon a hybu Cymreictod ond hefyd wedi bod o ddefnydd i bob garddwr gwerth ei halen.”