Mae rhai strydoedd yng nghanol Aberystwyth wedi dioddef llifogydd prynhawn ’ma (Awst 10).
Cawod drom a sydyn wnaeth arwain at lifogydd ar hyd strydoedd y dref ac mae’n debyg bod rhan fwyaf y dŵr wedi mynd bellach.
Cafodd nifer o dai eu heffeithio gan y llifogydd yn ogystal ag un eiddo masnachol yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Daeth y llifogydd ar ôl i rybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ddod i rym nos Sul (Awst 10).
Mae disgwyl y bydd rhannau helaeth o Gymru’n cael eu heffeithio gan y tywydd drwg.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai cartrefi a busnesau weld llifogydd yn yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio waethaf.