Mae holl aelodau Cabinet Llywodraeth Libanus wedi ymddiswyddo yn dilyn y ffrwydrad yn y brifddinas Beirut yr wythnos ddiwethaf, yn ôl Gweinidog Iechyd y wlad.

Fe fu’r cabinet dan bwysau yn dilyn y digwyddiad, gyda sawl aelod unigol yn camu o’r neilltu o ganlyniad i feirniadaeth eang.

Daeth cadarnhad o’r sefyllfa gan Hamad Hassan, a fu’n siarad â gohebwyr ar ôl cyfarfod o’r Cabinet, ddeuddydd wedi’r protestiadau mawr yn erbyn y llywodraeth wnaeth droi’n dreisgar.

Mae disgwyl i’r prif weinidog Hassan Diab fynd i balas yr Arlywydd i ymddiswyddo’n ffurfiol ar ran yr holl weinidogion, meddai.

Ond fe fydd y Cabinet yn parhau’n gabinet dros dro hyd nes bod modd ffurfio llywodraeth newydd.

Y ffrwydrad

Mae lle i gredu bod y ffrwydrad wedi cael ei achosi yn dilyn tân wnaeth gynnau 2,750 tunnell o ffrwydron.

Roedden nhw wedi cael eu storio ers 2013.

Y llywodraeth sy’n cael y bai am y digwyddiad, gyda honiadau o lygredigaeth ac esgeulustod.

Bu farw o leiaf 160 o bobol yn y ffrwydrad, a chafodd 6,000 yn rhagor eu hanafu.

Mae lle i gredu y bydd y digwyddiad yn costio rhwng £8bn a £12bn.

Mae oddeutu 300,000 o bobol yn ddigartref ers y ffrwydrad.