Mae’r athrawes adnabyddus Ethni Jones wedi marw ar ôl bod yn byw â chyflwr Alzheimer ers rhai blynyddoedd.

Fel Ethni y câi ei hadnabod, neu Ethni Daniel cyn priodi â Michael Jones, a’r ddau yn adnabyddus ym maes addysg Gymraeg.

Cafodd ei magu yn ardal Parc Victoria yng Nghaerdydd, yn ferch i Annie a Gwyn M. Daniel, ac yn chwaer i Nia a Lona.

Roedd hi ymhlith y plant cyntaf i gael addysg Gymraeg yn y brifddinas pan gafodd yr Ysgol Gymraeg ei hagor yn 1949.

Aeth yn ei blaen wedyn i Ysgol Uwchradd y Merched, Cathays, gan ddisgleirio yn y Gymraeg, Almaeneg a Ffrangeg.

Graddiodd hi yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac roedd hi’n ysgrifennydd pan ddaeth y coleg i’r brig yn yr Eisteddfod Ryng-golegol.

Roedd yn aelod o’r Aelwyd yn West Grove, gan ddysgu criw o ferched ac ennill cystadleuaeth ganu ‘Modryb Neli a’i chap melyn’, a hwyl a chwerthin yn rhan annatod o’i chymeriad.

Roedd hi’n “ffydlon i Gymru, i Gyd-ddyn ac i Grist” wrth gysegru ei bywyd i wireddu adduned yr Urdd.

Gyrfa

Roedd hi’n athrawes Gymraeg ac Almaeneg yn ysgolion uwchradd Penarth, a Phontypridd a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant, gan ysbrydoli cannoedd o’i disgyblion i garu Cymru a’r Gymraeg.

Cymerai ddosbarthiadau nos i ddysgwyr a bu’n rhan o’r tîm a sefydlodd yr Wlpan cyntaf yng Nghaerdydd.

Mae llu o ieuenctid yn ei chofio fel arweinydd Uwchadran yr Urdd a byddai’n arwain grwpiau i deithio’r cyfandir.

Mentrodd i ddechrau grwpiau chwarae haf gan fentora sawl person ifanc i ymgymryd â gwaith o’r fath.

Bu’n aelod o Ferched y Wawr gan hybu’r gweithgaredd hwnnw ym Mro Morgannwg.

Rhoddodd o’i hegni i waith Cymdeithas y Cymod yng Nghymru a tharfodd sawl tro ar y milwyr ar Epynt wrth iddi fethu dod o hyd i Gapel y Babell a chrwydro yn ei char mewn mannau na ddylid.

Bu’n weithgar ym mywyd y capel, gan fwynhau addoli a chynnal ei chyd-Gristnogion.

Teulu

Magodd bedwar o blant, Garmon, Mererid, Gwenfair a Rhiannon.

O ganlyniad i anghenion Garmon, bu’n allweddol yn sefydlu uned arbennig yn Ysgol Coed y Gof a hynny yn wyneb gwrthwynebiad yr awdurdodau.

Trwy ei hawydd i weld ei mab yn manteisio ar Wersylloedd yr Urdd ac angen cwmni rhai ifanc arno i wneud hynny, denodd nifer fawr i ymgymryd â’r dasg honno a’r profiad hwnnw’n cyfoethogi eu bywyd.

Y clefyd Alzheimer a ddiddymodd y bwrlwm a chollwyd hi o’i theulu a’i chymuned dros yr wyth mlynedd diwethaf.