Roedd diweithdra i lawr 2.7% yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.
Roedd 8,000 yn llai yn ddi-waith o’i gymharu â misoedd Ionawr i Fawrth, ac mae’r ffigwr 20,000 yn llai na’r un cyfnod y llynedd.
3.9% yw cyfradd ddiweithdra gwledydd Prydain gyda’i gilydd.
Roedd nifer y bobol ar y gyflogres drwy wledydd Prydain ym mis Gorffennaf i lawr 730,000 o’i gymharu â mis Mawrth – y gostyngiad chwarterol mwyaf ers dros ddegawd.
Roedd 432,000 o bobol yng Nghymru heb fod mewn gwaith a heb fod ar gael i weithio rhwng Ebrill a Mehefin – 11,000 yn llai na’r chwarter blaenorol, ond 15,000 yn fwy na’r un cyfnod y llynedd. Mae’r rhain yn cynnwys pobol sy’n methu gweithio oherwydd salwch neu am eu bod nhw’n gofalu am rywun arall neu mewn addysg lawn amser.
Roedd 41,000 yn ddi-waith ond mewn sefyllfa i weithio rhwng Ebrill a Mehefin.