Mae prif ymgeisydd gwrthblaid Belarws wedi ffoi o’r wlad ac wedi teithio i Lithwania, lle mae hi’n “ddiogel” yn ôl un o weinidogion y llywodraeth.
Mae Sviatlana Tsikhanouskaya wedi gwrthod ildio yn yr etholiad a gafodd ei gynnal ddydd Sul (Awst 9), gan wfftio’r canlyniadau swyddogol sy’n dangos buddugoliaeth swmpus i’r Arlywydd Alexander Lukashenko.
Dywed Linas Linkevicius, un o weinidogion llywodraeth Belarws, fod Sviatlana Tsikhanouskaya yn “ddiogel” yn Lithwania erbyn hyn, ar ôl iddi fynnu ddoe (dydd Llun, Awst 10) y dylid cyfri’r pleidleisiau eto.
Mae miloedd o bobol wedi bod yn protestio yn erbyn canlyniad yr etholiad, ac fe fu farw un person ym Minsk wrth i’r heddlu geisio tawelu’r torfeydd ond yn ôl y llywodraeth, cafodd yr unigolyn ei ladd wrth geisio taflu ffrwydron.
Yr arlywydd
Mae Alexander Lukashenko wrth y llyw ers 1994.
Mae e wedi ennill chweched tymor gydag 80% o’r bleidlais, tra bod ei brif wrthwynebydd wedi ennill 10% yn unig.
Ar ôl cyhoeddi’r canlyniad, dywedodd Sviatlana Tsikhanouskaya fod rhaid iddi adael y wlad er mwyn bod gyda’i phlant, sydd wedi’u hanfon i wlad arall dros dro ar ôl i’w mam dderbyn bygythiadau i’w lladd.