Mae RSPB Cymru yn gofidio bod prosiect ynni adnewyddol Morlais yn Ynys Môn yn peryglu dyfodol bywyd gwyllt yr ynys.

Mae’r elusen yn poeni bod y pwysau gwleidyddol ac economaidd i gwblhau’r cais yn golygu bod y datblygiad hwn wedi cymryd risgiau nad oes modd eu rheoli.

Bwriad prosiect Morlais gan Fenter Môn yw cynhyrchu trydan dibynadwy a sicrhau budd i’r gymuned leol, yr economi a’r amgylchedd.

Yn ôl Menter Môn, mae gan y cynllun y potensial i fod yn un o’r safleoedd cynhyrchu ynni llif llanw mwyaf yn y byd gyda’r capasiti i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan.

Mae’r RSPB yn cydnabod yr angen i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a glân, ond yn gofidio y gallai prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd wedi’u lleoli’n anaddas neu eu dylunio’n wael beri risgiau sylweddol i’r amgylchedd.

Mae’r Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol gan Fenter Môn yn nodi y gallai’r prosiect arwain at golli 60% o’r gwylogod a 97% o’r llursod sy’n bridio ar y clogwyni yng ngwarchodfa natur Ynys Lawd, sy’n cael ei rhedeg gan yr RSPB.

Yn ôl yr RSPB, mae’r bywyd gwyllt yma yn denu 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r ynys.

Gwarchod bywyd gwyllt morol

“Os yw’r prosiect o ddifrif am brofi technolegau cynhyrchu ynni morol newydd mewn modd amgylcheddol sensitif, rhaid iddo weithredu fesul cam a dysgu o bob cam,” meddai Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru.

Mae’r RSPB yn credu y dylai Menter Môn leihau maint y prosiect er mwyn gwarchod bywyd gwyllt morol.

“Rydyn ni’n galw am dynnu’r cynnig graddfa fawr 240MW yn ôl a’i ddisodli â phrosiect ‘peilot’ cychwynnol ar raddfa lai,” meddai.

“Byddai cydsyniad ar raddfa lai yn lleihau’r risgiau o wneud niwed amgylcheddol ac yn golygu bod modd dysgu cymaint â phosibl am dechnolegau newydd yn y lleoliad hynod amgylcheddol sensitif hwn.”

‘Ansicrwydd’

“Ar hyn o bryd, mae gofyn i ni dderbyn y bydd y risgiau amgylcheddol difrifol i’n hadar môr a’n mamaliaid morol yn cael eu rheoli drwy ‘Gynlluniau Rheoli Addasol’. Fodd bynnag, mae gormod o ansicrwydd yn y prosiect i fynd ar y trywydd hwn”, meddai Katie-Jo Luxton.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr RSPB Cymru fod cwestiynau eto i’w hateb am y dechnoleg fydd yn cael ei defnyddio fel rhan o’r cynllun.

“Ni allwn weld sut bydd yr effeithiau niweidiol yn cael eu nodi, heb sôn am eu lliniaru neu eu hosgoi,” meddai.

“Gan ystyried hyn ochr yn ochr â’r effeithiau amgylcheddol sylweddol posibl sydd eisoes wedi’u cydnabod – nid ydym yn gallu cydsynio i brosiect ar y raddfa hon, drwy broses nad yw’n cynnwys unrhyw fesurau diogelu amgylcheddol fod yn dderbyniol.” 

Gerallt Llewelyn Jones, Cyfarwyddwr gyda Morlais

‘Siomedig’

Wrth ymateb i sylwadau RSPB, eglurodd Morlais a Menter Môn wrth golwg360 fod monitro effaith y cynllun Morlais yn ganolog i’r cynlluniau.

Ond dywed Gerallt Llewelyn Jones, un o gyfarwyddwyr y cynllun, fod datganiad yr RSPB yn destun siom iddyn nhw.

“Mae datganid RSPB yn siom i ni gan ein bod wedi trafod efo nhw yn rheolaidd ac wedi gwrando ar adborth, ac o ganlyniad ein bwriad yw gosod tyrbinau mewn ffordd sydd wedi ei reoli yn ofalus ac mewn ffordd na fydd yn achosi’r niwed maen nhw yn honni,” meddai.

“Un o’r pwyntiau mae’r RSPB yn godi yn eu datganiad yw’r angen i weithredu fesul cam – a dyma yn union rydan ni yn bwriadu ei wneud ac wedi ei amlinellu yn ein cais i Lywodraeth Cymru. Bydd tyrbinau yn cael eu gosod yn y môr fesul dipyn – gyda monitro agos iawn o’r effaith ar fywyd gwyllt.

“Rydan ni yn hyderus bod ein gwaith ymchwil yn drylwyr ac y gallwn symud ymlaen gan wybod na fydd effaith negyddol ar fywyd gwyllt.

“Ond rydym hefyd yn barod iawn i barhau i wrando ac i ddysgu a dim ond pan fydd hi’n gwbl amlwg na fydd effaith negyddol ar adar a mamaliaid morol y byddwn yn gosod tyrbinau pellach yn y dŵr.

“Fel prosiect sy’n cael ei redeg yn lleol rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr bod Môn a gogledd Cymru yn ehangach yn elwa cymaint â phosib o’r cynlluniau yma i gynhyrchu ynni glân, carbon isel.”

Ategodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, yr un neges.

“Fel sefydliadau rydan ni wedi bod yn gweithredu ar brosiectau amgylcheddol a bywyd gwyllt at yr ynys ers chwarter canrif,” meddai.

“Lles ein cymunedau sy’n gyrru ni fel cwmni ac mae hyn yn ganolog i’n prosiectau i gyd – nid yw Morlais yn eithriad, gyda chyfle gwirioneddol yma i ddod a swyddi i’r ardal yn ogystal â chymryd camau cadarnhaol i daclo newid hinsawdd.”