Mae mwy na deg miliwn o bobol wedi manteisio ar gynllun bwyta allan Llywodraeth Prydain, sydd wedi’i gynllunio i helpu adferiad bwytai yn dilyn ymlediad y coronafeirws.

Dywed y Trysorlys bod 10,540,394 o bobol wedi gwneud cais am gymorth trwy’r cynllun.

Mae mwy nag 83,000 o fwytai wedi cofrestru ar gyfer Eat Out to Help Out.

Fel rhan o’r cynllun, gall pobol gael prydau bwyd gwerth hyd at £10 y pen am hanner y pris.

Os yw dau berson yn bwyta allan gyda’i gilydd, mae hynny’n cyfrif fel dau bryd ar wahân yn ôl y cynllun.