Fe fu mwy nag 20m o achosion o’r coronafeirws ledled y byd erbyn hyn, yn ôl cofnod Prifysgol Johns Hopkins.

733,103 yw’r ffigwr swyddogol erbyn hyn.

Fe fu 313,390 yng ngwledydd Prydain, yn ôl y brifysgol, sy’n eu gosod nhw’n ddeuddfed yn y byd y tu ôl i Sbaen.

Yr Unol Daleithiau sydd â’r nifer fwyaf o farwolaethau (163,331), tra bu 101,000 ym Mrasil, 52,000 ym Mecsico, 46,611 yng ngwledydd Prydain a mwy na 44,000 yn India.