Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref Prydain, wedi derbyn cais gan aelod seneddol Ceidwadol i ystyried cynnal achos llys rhithwir yn achos gwraig diplomydd sydd dan amheuaeth o ladd Harry Dunn.

Cafodd Anne Sacoolas ei chyhuddo o achosi marwolaeth y dyn 19 oed trwy yrru’n beryglus ger safle’r Awyrlu yn Swydd Northampton fis Awst y llynedd.

Hawliodd hi imiwnedd diplomyddol wedi’r digwyddiad, gan ddychwelyd i’r Unol Daleithiau.

Yn ôl Andrea Leadsom, aelod seneddol teulu Harry Dunn, byddai cynnal achos o bell yn ffordd o geisio cyfiawnder “heb danseilio” penderfyniad yr Unol Daleithiau.

Mae hi hefyd wedi anfon llythyr at y Cyfreithiwr Cyffredinol, yr Ysgrifennydd Tramor, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Arglwydd Ganghellor.

Dywed llefarydd y teulu na fydden nhw’n gwrthwynebu achos llys rhithwir.

Ymateb y teulu

“Dydy sut mae cyfiawnder yn cael ei weinyddu ddim yn fater i fi fel un sydd wedi dioddef yn sgil y drosedd ddifrifol iawn hon,” meddai Charlotte Charles, mam Harry Dunn wrth y Press Association.

“Fodd bynnag, dw i’n ddiolchgar iawn i Andrea Leadsom am weithio’n galed ar ein rhan ni er mwyn sicrhau bod cyfiawnder ar gyfer Harry.

“Gallaf weld ei bod hi wedi ysgrifennu at yr awdurdodau’n awgrymu bod Anne Sacoolas yn sefyll ei phrawf o bell yn yr Unol Daleithiau ac rydym yn ddiolchgar iddi am edrych ar ffyrdd o sicrhau cyfiawnder.”

Mewn datganiad teimladwy, dywedodd nad oedd hi wedi cyrraedd yr ysbyty mewn pryd cyn i’w mab farw.

“Ond fe wnes i addo iddo fe y byddem ni yn cael cyfiawnder iddo fe, a dyna fyddwn ni’n ei wneud.

“Mae gen i bob ffydd y bydd yr awdurdodau’n sicrhau bod hynny’n digwydd.”

Ymateb yr Unol Daleithiau

Fis Ionawr, fe wnaeth Mike Pompeo, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, wrthod cais i estraddodi Anne Sacoolas.

Dywedodd yr adran yn ddiweddarach mai penderfyniad “terfynol” oedd hwn, er bod y ddwy wlad wedi mynd ati fis diwethaf i gau’r bwlch mewn deddfwriaeth oedd wedi gallugoi Anne Sacoolas i hawlio imiwnedd diplomyddol.

Dydy’r Swyddfa Gartref ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn, ond mae Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol wedi cadarnhau iddyn nhw dderbyn llythyr.