Mae diffyg tystiolaeth gan Lywodraeth yr Alban wedi “siomi” pwyllgor Holyrood sy’n ymchwilio i honiadau yn erbyn y cyn-brif weinidog Alex Salmond.

Dywed y pwyllgor fod y diffyg tystiolaeth yn destun “rhwystredigaeth” iddyn nhw, ar ôl i ddarnau o’r dystiolaeth gael eu golygu am eu bod nhw’n cynnwys cyngor cyfreithiol ac felly’n destun braint gyfreithiol.

Dywed Linda Fabiani, trefnydd y pwyllgor, fod angen i’r pwyllgor weld y dogfennau llawn ar frys.

Maen nhw’n ymwneud â’r broses arweiniodd at iawndal o £512,250 i Alex Salmond yn dilyn ei her gyfreithiol lwyddiannus yn erbyn y llywodraeth.

Dywed Linda Fabiani fod gan “y cyhoedd yr hawl i ddisgwyl i Lywodraeth yr Alban fod yn barod i gael eu craffu” ac i gynnal “adolygiad barnwrol oedd wedi costio £500,000 allan o’r pwrs cyhoeddus”.

Mae disgwyl i’r pwyllgor gyfarfod eto ddydd Mawrth nesaf (Awst 18) i benderfynu ar y camau nesaf.

Fis Mawrth eleni, cafwyd Alex Salmond yn ddieuog o 13 o droseddau rhyw yn dilyn achos yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin.