Bydd cyfres o ddosbarthiadau ar-lein yn cael eu cynnal y mis yma er mwyn annog ffermwyr i wneud y defnydd gorau o’u tir.

Mae’r dosbarthiadau ar-lein yn cael eu cynnal gan brosiect GrasscheckGB.

Bydd un o’r dosbarthiadau’n drafodaeth fydd yn cael ei chadeirio gan Nia Davies, Swyddog Ymchwil a Datblygu Hybu Cig Cymru.

Bydd yn cynnwys sylfaenydd a Chyfarwyddwr Precision Grazing James Daniel, Rheolwr Datblygu Busnes Datamars Livestock UK John Frizell, a Rheolwr Da Byw a Pori fferm Pomeroy, Dane de Boorder.

Dull pori cylchdro

Bydd y dosbarth ar-lein yn canolbwyntio ar ddefnydd ffermwyr o ddull pori cylchdro (rotational grazing).

Pori cylchdro yw’r weithred o symud da byw rhwng porfeydd gwahanol yn ôl yr angen.

“Ar hyn o bryd mae pob un o’r ffermwyr GrassCheckGB yn gweithredu system pori padog cylchdro,” meddai Nia Davies.

“Bydd y dosbarth ar lein yma yn cynnig cyngor ar sut mae pori cylchdro yn gweithio ac yn egluro sut y gellir cyflwyno system pori a gorffwys ym mhob fferm oen, cig eidion neu laeth.

“Rydw i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau pori cylchdro neu sydd eisiau dysgu mwy am y system, i ymuno â’r dosbarth dros y we am ddim ar Awst 20 am 7 yr hwyr.”

Mae’r prosiect yn un cydweithredol rhwng Hybu Cig Cymru, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, Quality Meat Scotland a CIEL (Canolfan Rhagoriaeth Arloesi mewn Da Byw).

Mae’r gwaith wedi’i ariannu o gronfa o £3.5m – cronfa dros dro wrth geisio dod o hyd i ateb tymor hir i godi ardollau ar gig sydd wedi’i fagu yng Nghymru a’r Alban ond lle mae’r anifail wedi’i ladd yn Lloegr.