Mae’r Llys Apêl yn dweud bod defnydd Heddlu’r De o dechnoleg adnabod wynebau wedi mynd yn groes i ddeddfau preifatrwydd a gwarchod data.
Fe aeth Ed Bridges, ymgyrchydd hawliau sifil 37 oed, â’i achos i’r llys ar ôl i’r heddlu sganio’i wyneb wrth iddo wneud ei siopa Nadolig yng Nghaerdydd yn 2017 ac unwaith eto mewn protest heddychlon ger Arena Motorpoint y brifddinas yn 2018.
Fe wnaeth e ddadlau iddo gael ei niweidio gan weithred yr heddlu, ac fe wnaeth e droi at y Llys Apêl ar ôl i’r Uchel Lys farnu yn ei erbyn.
Roedd ei apêl yn rhannol lwyddiannus, gyda thri dyfarniad o’i blaid ond dau yn ei erbyn.
Ymateb yr heddlu
Mae Heddlu’r De wedi ymateb i’r dyfarniad gan ddweud eu bod nhw’n “croesawu” y ffaith fod y llys wedi cydnabod pwysigrwydd yr arbrawf wrth adnabod wynebau.
“Dw i’n hyderus bod hwn yn ddyfarniad y gallwn ni weithio â fe,” meddai Matt Jukes, prif gwnstabl yr heddlu.
“Ein blaenoriaeth o hyd yw gwarchod y cyhoedd ac mae hynny’n mynd law yn llaw ag ymrwymiad i sicrhau y gallan nhw weld ein bod ni’n defnyddio technoleg newydd mewn ffyrdd sy’n gyfrifol a theg.”
Dywed y byddan nhw’n ystyried y mannau lle’r oedd eu hachos yn aflwyddiannus.
“Mae dyfarniad y Llys Apêl yn ein helpu wrth gyfeirio at nifer fach o feysydd polisi sy’n gofyn am sylw,” meddai.
“Mae ein polisïau eisoes wedi esblygu ers i dreialon 2017 a 2018 gael eu hystyried gan y llysoedd, ac rydym bellach mewn trafodaethau â’r Swyddfa Gartref a’r Comisiynydd Camerâu Goruchwylio am yr addasiadau pellach y dylem eu gwneud ac unrhyw ymyrriadau eraill sydd eu hangen.”
Mae’n dweud bod yr heddlu’n “falch” fod y llysoedd wedi barnu nad oedd rhagfarn wrth ddefnyddio’r dechnoleg, ond fod “cwestiynau ynghylch hyder y cyhoedd, tegwch a thryloywder yn hanfodol bwysig” yn gofyn am ragor o waith.
I’r perwyl hwn, meddai, mae dadansoddiad academaidd a gafodd ei gomisiynu ar y gweill, ond mae wedi’i oedi am y tro yn sgil y coronafeirws.