Mae trigolion Hong Kong wedi bod yn heidio i brynu papur newydd sy’n beirniadu Llywodraeth Tsieina, ar ôl i’r papur fod yn destun cyrch ar eu swyddfeydd.

Fe fu cannoedd o filoedd o bobol yn protestio ar y strydoedd y llynedd i fynnu democratiaeth lawn, ac fe gawson nhw gryn gefnogaeth gan yr Apple Daily.

Mae pobol wedi bod yn heidio i brynu copïau o’r papur hwnnw, gan roi deg doler Hong Kong yr un – sy’n cyfateb i 95 ceiniog – mewn ymgais i achub y papur ar gyfer y dyfodol.

Daw’r weithred ddiwrnod yn unig ar ôl i’r heddlu gasglu deg o bobol ynghyd, gan gynnwys sylfaenydd y papur, yn ystod y cyrch.

Mae pryderon bellach y gallai deddfau diogelwch newydd y wlad gael eu defnyddio i dawelu protestwyr gwrth-lywodraeth.

Daeth y ddeddf newydd i rym chwe wythnos yn ôl, gan arwain at gynnydd yn y cyrchoedd yn erbyn protestwyr. Yn eu plith mae’r dyn busnes Jimmy Lai, sylfaenydd Apple Daily.

Gallai’r ffaith mai prynu papur yw protest diweddara’r protestwyr ddangos sut mae natur eu gwrthdystiadau wedi newid ers y llynedd.

Cafodd 350,000 o gopïau eu hargraffu ddoe (dydd Llun, Awst 10) – bum gwaith yn fwy na’r nifer ddyddiol arferol, ac roedd disgwyl i ragor gael eu hargraffu eto pe bai angen.