Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud na fyddai’n oedi i’w gwneud hi’n orfodol gwisgo masgiau mewn rhagor o amgylchiadau pe bai’r coronafeirws yn lledu eto.

Fe wnaeth y sylwadau’n fyw ar Facebook.

Ar hyn o bryd, mae’n orfodol i wisgo masgiau yng Nghymru wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn yr Alban a Lloegr mae’n orfodol i wisgo masgiau mewn siopau ac archfarchnadoedd hefyd.

Ar ôl cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws, mae gwisgo masgiau mewn siopau ac archfarchnadoedd yn orfodol yng Ngogledd Iwerddon ers ddoe (Awst 10).

Dydy hi ddim yn orfodol i wisgo masgiau mewn siopau ac archfarchnadoedd yng Nghymru, ond mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pobol i wisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus pan nad yw’n bosib cadw pellter cymdeithasol.

“Fe wnawn ni wneud nhw’n orfodol mewn llefydd eraill os fydd coronafeirws yn dechrau lledu eto yng Nghymru,” meddai’r Prif Weinidog.

Eglura nad yw’n credu bod angen gorfodi pobol i wisgo masgiau mewn rhagor o amgylchiadau ar hyn o bryd ac na fyddai’n “deg i ddweud wrth rywun allwch chi ddim mynd i siop oni bai eich bod yn gwisgo un”.

“Ond rydw i eisiau bod yn glir i bawb. Os fydd y feirws yn dechrau lledu eto yng Nghymru, ac rydym yn meddwl bod e’n gywir i’w gwneud yn orfodol [i bobol wisgo masgiau] mewn siopau neu amgylchiadau eraill, wnawn ni ddim oedi i wneud hynny.”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i orfodi pobol i wisgo masgiau mewn siopau yng Nghymru.