Mae merch 13 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobol yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysgol am oddeutu 11.20 fore ddoe (dydd Mercher, Ebrill 25), yn dilyn adroddiadau bod pobol wedi cael eu hanafu.

Cafodd dwy athrawes a disgybl eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau ar ôl iddyn nhw gael eu trywanu, ac fe gawson nhw driniaeth am anafiadau gafodd eu hachosi gan gyllell. Maen nhw i gyd bellach wedi cael mynd adref.

Cafodd y ferch 13 oed ei harestio yn y fan a’r lle, ac mae hi bellach wedi cael ei chyhuddo.

Fe fu’r heddlu ar dir yr ysgol ers y digwyddiad wrth i’r ymchwiliad barhau, ac mae’r ysgol ynghau gyda gwersi ar-lein yn cael eu cynnig.

Mae’r heddlu wedi derbyn nifer o alwadau yn sgil pryderon am negeseuon yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, medden nhw.

Mae llanc 15 oed gafodd ei arestio yn ei gartref yn cael ei holi yn y ddalfa ar amheuaeth o greu’r deunydd sy’n cael ei rannu, ac mae’r heddlu’n ceisio darganfod y cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad sy’n cael eu hymchwilio ar wahân.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r Gwasanaeth Ambiwlans a’r Ambiwlans Awyr am eu hymateb i’r digwyddiad, ynghyd â staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol oedd wedi trin y rhai gafodd eu hanafu ac elusennau sy’n cefnogi’r rhai gafodd eu heffeithio, ynghyd ag aelodau’r cyhoedd oedd wedi rhoi gwybod i’r heddlu am eu pryderon.

Ysgol Dyffryn Aman wedi symud ar-lein dros dro

Fydd yr ysgol ddim yn agor ei drysau i ddisgyblion ddydd Gwener (Ebrill 26)

Bygythiadau yn Rhydaman: Llanc yn dal yn y ddalfa

Mae’r heddlu’n ymchwilio i gysylltiad posib â’r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman

Arestio llanc ar amheuaeth o fod ag arf yn Rhydaman

Cafwyd hyd i ddryll BB mewn eiddo yn y dref, oriau ar ôl i dri o bobol gael eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman
Heddwas

Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi’i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

Cafodd tri o bobol eu trywanu, medd Heddlu Dyfed-Powys