Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod merch wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ar ôl i dri o bobol gael eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman heddiw (dydd Mercher, Ebrill 24).
Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysgol ddwyieithog yn Rhydaman am 11.20yb, a bu’n rhaid cadw’r ysgol ynghau wrth i’r digwyddiad fynd rhagddo.
Aeth tri o bobol – dau o athrawon a disgybl – i’r ysbyty ag anafiadau ar ôl cael eu trywanu, ond maen nhw i gyd wedi cael mynd adref bellach.
Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi datgelu bod ei frawd yn un o athrawon yr ysgol. Ond doedd e ddim wedi’i anafu yn y digwyddiad.
Mae’r ferch sydd wedi’i harestio yn cael ei holi yn y ddalfa, ac mae’r heddlu wedi sicrhau rheini a’r cyhoedd fod y digwyddiad bellach wedi dod i ben, ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall.
Mae disgyblion bellach wedi cael gadael yr ysgol, ac mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n cydweithio ag awdurdodau eraill i gynnig cymorth i unrhyw un gafodd eu heffeithio.
Maen nhw hefyd yn galw am ddileu deunydd o’r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, a hynny er mwyn atal dirmyg llys a niwed i’r rhai gafodd eu heffeithio.
Maen nhw’n rhybuddio y bydd mwy o heddlu nag arfer yn yr ardal dros y dyddiau nesaf, ac yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw.