Mae pwyllgor wedi clywed bod bwlch ariannu gwerth degau o filiynau o bunnoedd yn llesteirio ymdrechion i adfer safleoedd glo brig, a bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru fynd i’r afael â thrachwant corfforaethol.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd wedi dechrau derbyn tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad i adfer safleoedd glo brig, yn sgil pryderon am Ffos y Frân ym Merthyr Tudful.

Dywedodd Carl Banton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Awdurdod Glo, fod y corff cyhoeddus yn ceisio trefnu’r adferiad gorau posib, ond mai’r brif broblem yw diffyg arian.

Dywedodd wrth y pwyllgor fod £50m ar gael ar gyfer gwaith adfer yn Ffos y Frân, oedd wedi cau ym mis Tachwedd, ond y bydd yn costio rywle rhwng £75m a £125m – sy’n “fwlch ariannu mawr iawn”.

Dywedodd fod cynlluniau adfer East Pit a Margam wedi dioddef yn sgil diffyg tebyg.

‘Arian ar goll’

“Un o’r materion mawr nawr yw faint o ddŵr sydd yn y bylchau hynny,” meddai, gan rybuddio bod pwmpio dŵr allan yn “waith enfawr”, allai gostio degau o filiynau o bunnoedd.

Eglurodd mai cynghorau yw’r prif awdurdodau ar gyfer rheoleiddio glofeydd brig drwy gynllunio, a bod gan yr Awdurdod Glo rôl yn nhermau trwyddedu gweithrediadau cloddio.

“Y syniad y tu ôl i hyn oedd ceisio atal y sefyllfa rydyn ni ynddi nawr,” meddai, wrth dynnu sylw at ganllawiau arfer da o 2016 ar adfer safleoedd glo brig.

Rhybuddiodd nad yw’r symiau sy’n cael eu dal yn ysgrow gan gynghorau rhag ofn bod cwmni’n mynd yn fethdal “yn agos at fod yn ddigonol” ar gyfer cynlluniau adfer.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau fod yr Awdurdod Glo wedi cynnig arweiniad i Gyngor Merthyr Tudful ar arian ysgrow yn 2016, “ond penderfynon nhw beidio â mynd i lawr y trywydd hwnnw”.

‘Gwrthdaro’

Awgrymodd Mark Drakeford fod gorchwyl Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer yr Awdurdod Glo – sef gwneud y mwyaf o echdynnu glo – yn gwrthdaro’n llwyr â pholisi Cymru o leihau’r defnydd o danwydd ffosil.

Dywedodd Carl Banton wrth y cyn-Brif Weinidog nad yw adolygiad o’r gorchwyl oedd ar y gweill wedi cael ei gynnal.

Ar fater Ffos y Frân, dywedodd fod yr Awdurdod Glo wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru fis Hydref i godi’r peryglon yn nhermau diogelwch y cyhoedd a’r angen i weithredu ar fyrder.

Cododd Mark Drakeford bryderon am archwiliad oedd wedi canfod fod y cwmni’n cloddio y tu hwnt i ffiniau safle Ffos y Frân heb ganiatâd cynllunio.

Dywedodd Carl Banton fod yr Awdurdod Glo wedi cynnal archwiliad pellach ym mis Awst, a chanfod fod y cwmni’n dal i gloddio y tu allan i’r ardal lle’r oedd ganddyn nhw ganiatâd, ac fe ddechreuon nhw gamau gorfodi ym mis Medi.

‘Trachwant corfforaethol’

Fe wnaeth Delyth Jewell godi pryderon ar ran Plaid Cymru ynghylch awgrym Cyngor Merthyr Tudful y gallai’r bwlch sydd wedi’i lenwi â dŵr wedi’i wenwyno ffurfio rhan o’r safle wedi’i adfer.

Dywedodd Carl Banton y bydd angen asesiad hydroddaearegol er mwyn sicrhau bod y dŵr yn ddiogel.

Fe wnaeth Daniel Therkelsen o’r Rhwydwaith Gweithredu Glo briodoli diffyg adferiad yng Nghymru i wendid deddfwriaethol a thrachwant corfforaethol.

Dywedodd yr ymgyrchydd fod safleoedd Celtic Energy wedi’u gadael mewn cyflwr dychrynllyd, a bod barnwr wedi canfod fod gweithredoedd y cwmni’n deilwng o gerydd ond nid yn anghyfreithlon.

Dywedodd Daniel Therkelsen fod Merthyr (South Wales) Ltd, gweithredwyr safle Ffos y Frân, wedi talu bron i £50m mewn rhandaliadau a chyfrannau ers 2016.

Yn yr un modd, fe wnaeth Marcus Bailie, ymgyrchydd gyda Gwrthryfel Difodiant Cymru, godi pryderon tebyg am elw preifat yn dod ar draul lles y cyhoedd a’r blaned.

‘Wedi’i adfer yn wael’

Wrth gyfeirio at East Pit a Margam fel enghreifftiau o safleoedd sydd wedi’u hadfer yn wael, dywedodd Daniel Therkelsen fod pobol gerllaw yn parhau i alw am adferiad fel ei fod yn “ymddangos yn debyg i’r hyn oedd e o’r blaen”.

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, fod ymgyrchwyr wedi bod yn codi pryderon am Ffos y Frân ers blynyddoedd, wrth iddi annog y Cyngor a Llywodraeth Cymru i ymyrryd.

“Bu’n eithaf anodd cael gwybodaeth gan yr awdurdod lleol – p’un a yw hynny ynghylch sicrhau bod ymgynghori â chymunedau lleol neu o ran dogfennau cynllunio elfennol,” meddai.

Dywedodd Daniel Therkelsen fod ymatebion wedi cymryd amser hir, gan gyhuddo’r Cyngor o “atal” craffu cyhoeddus ar y naill law, a chynnal cyfarfodydd wythnosol â’r gweithredwr ar y llaw arall.

Rhybuddiodd fod y 14 i 16 mis o gloddio anghyfreithlon yn Ffos y Frân wedi gweld ryw 600,000 tunnell o lo yn cael eu hechdynnu, gan arwain at ryw 428 o farwolaethau’n ymwneud â’r hinsawdd.

‘Dim canlyniadau’

“Does dim byd yn digwydd iddyn nhw – does dim canlyniadau,” meddai Daniel Therkelsen wedyn.

“Dydy’r un dime o elw’r cwmni wedi’i gyffwrdd, er iddyn nhw gloddio’n anghyfreithlon ers dros flwyddyn.”

Dywedodd David Kilner, cydlynydd ymgyrchoedd Climate Cymru, fod cynlluniau adfer Ffos y Frân yn debygol o fod yn annigonol iawn o ystyried y diffyg ariannol.

Cododd Haf Elgar bryderon am y perygl y gallai’r cynlluniau ar gyfer Bedwar “agor cil y drws” i ddiwydiant arall o echdynnu glo yn gyfnewid am addewid o adferiad.

Fe wnaeth Llŷr Gruffydd, sy’n cadeirio’r pwyllgor, feirniadu Cyngor Merthyr Tudful, oedd wedi gwrthod rhoi tystiolaeth wyneb yn wyneb ar Ebrill 24, gan gyflwyno dwy dudalen o dystiolaeth ysgrifenedig yn lle hynny.

Mae Merthyr (South Wales) Ltd wedi cael gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor ar Fai 9.