Bydd Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros ogledd Cymru, yn cael y cyfle i gyflwyno’i gynnig ar gyfer Bil BSL yn y gobaith o ddileu’r rhwystrau ar gyfer pobol fyddar.
Ei nod wrth gyflwyno’r ddeddfwriaeth fyddai creu safonau ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain, sefydlu panel, cynhyrchu adroddiadau bob pum mlynedd yn Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg a Saesneg ar safle’r iaith yn y cyfnod hwnnw.
Byddai hefyd yn darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso Iaith Arwyddion Prydain, ac yn sefydlu gweithdrefn er mwyn ymchwilio i gwynion.
Ymhellach, bydd yn sicrhau nad yw pobol fyddar yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg, a bod gan y gymuned fyddar lais wrth greu a chyflwyno gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion.
Byddai’n rhaid i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd wrth hyrwyddo a hwyluso Iaith Arwyddion Prydain drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Byddai hefyd yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol mewn Iaith Arwyddion Prydain, yn disgrifio’r hyn mae adrannau’r llywodraeth wedi’i wneud i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith.
‘Rhoi llais i gymunedau byddar’
“Dw i wrth fy modd o fod mewn sefyllfa lle fedra i gyflwyno Bil Iaith Arwyddion Prydain mawr ei angen, ei ddatblygu a’i gael yn destun dadl yn y Senedd,” meddai Mark Isherwood.
“Mae angen dileu’r rhwystrau presennol ar gyfer pobol fyddar a’u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle, ac mae’r Bil yn ceisio gwneud yr union beth hwnnw.
“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio ac ymgysylltu â sefydliadau sy’n rhanddeiliaid i ddatblygu Bil sy’n rhoi llais i gymunedau byddar wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n diwallu eu hanghenion.”