Roedd criw o brotestwyr wedi ymgynnull o flaen McDonald’s ar gyrion tref Caernarfon ddoe (dydd Iau, Ebrill 25).

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gynnal protest yno, er bod un wedi cael ei chynnal y tu allan i gangen Bangor yn y gorffennol.

Fis Hydref y llynedd, dywedodd McDonald’s Israel ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu bod nhw wedi rhoi miloedd o brydau bwyd am ddim i weithwyr Lluoedd Amddiffyn Israel.

Mae hyn wedi arwain at brotestiadau boicotio y tu allan i fwytai McDonald’s ledled y byd.

Un o’r ymgyrchwyr yng Nghaernarfon oedd Anna Jane, un o’r criw sy’n cynnal gwylnos ar y Maes yng Nghaernarfon i gefnogi dioddefwyr rhyfel Israel-Gaza bob nos Sul ers mis Hydref.

“Rydan ni wedi bod yn lwcus yng Nghaernarfon – mae yna gefnogaeth,” meddai wrth golwg360.

“Rydan ni wedi gwneud eitha’ tipyn ynglŷn â boicotio a’r ffaith bod gennym ni ddewisiadau pan ydan ni’n mynd i siopau i beidio â phrynu pethau sy’n dod o Israel.

“Mae McDonald’s yn bwydo’r milwyr, ac mae pobol Gaza yn llythrennol heb fwyd i’w fwyta.”

Mae hi’n credu bod yr ymosodiadau milwrol sy’n digwydd yn Gaza heddiw yn “arswydus”.

“Yr hyn sy’n fy nychryn i fwya’ ydi lefel y casineb,” meddai.

“Dydi’r Israeliaid yn ddim gwahanol i ni, ac mae’r ffaith ein bod ni’n gallu mynd i’r lefelau yna o ddial a chasineb heb feddwl bod yna ddim byd yn rong – a’n bod ni fel gwledydd y gorllewin yn parhau i arfogi a bwydo’r holl beth – yn fy nychryn i.

“Rydan ni i gyd yn ein dagrau yn edrych ar y peth.”

Taflennu

Roedd un o’r protestwyr yn cynnig taflen i yrwyr y ceir oedd yn troi i mewn i safle’r bwyty.

Roedd y daflen yn galw ar bobol i beidio “â buddsoddi yn hil-laddiad y Palesteiniaid” ac i beidio â chefnogi McDonald’s a nifer o gwmnïau poblogaidd oherwydd eu cyswllt ag Israel, gyda logos brandiau fel Coca Cola, M&S, Cadbury’s, Mars, Nescafé, Pizza Hut ac Amazon.com.

Tra ein bod ni yno, fe drodd o leiaf dri char yn eu hôl ar ôl cael taflen a sgwrs gyda’r ymgyrchydd.

“Mae’n hysbys bod McDonald’s yn Israel wedi bod yn bwydo’r milwyr IDF (Israel Defence Forces) yna ac felly rydan ni’n protestio ac yn galw am bobol i foicotio,” meddai Sioned Huws, oedd yn dal baner Palesteina wrth y fynedfa.

“Mae yna lawer o bobol ddim yn ymwybodol o’r cyswllt sydd yna rhwng cymaint o gwmnïau ac sydd yn cefnogi Israel.”

Faint o wahaniaeth mae criw bach yng Nghaernarfon yn gallu’i wneud i ddylanwadu ar ryfel gwaedlyd yn y Dwyrain Canol, felly?

“Mae pawb yn eu patsh eu hunain yn codi ymwybyddiaeth ac mae hynna’n eithriadol o bwysig,” meddai Sioned Huws.

“Chewch chi ddim byd ar y cyfryngau yma.

“Dydi pobol efallai ddim yn meddwl bod yna gysylltiad rhwng McDonald’s a’r holl ladd sy’n digwydd yn Gaza.

“Ac mae boicotio wedi gweithio, fel rydan ni’n gwybod efo De Affrica.

“Mae pres yn gweithio.”

Fis Rhagfyr y llynedd, penderfynodd cwmni Puma roi’r gorau i noddi tîm pêl-droed Israel.

Mae’n debyg bod McDonald’s Caernarfon yn fodlon i’r ymgyrchwyr fod yno, ar yr amod eu bod nhw’n cadw oddi ar dir y bwyty.

Daeth un rheolwraig allan droeon yn ystod y brotest i fynnu hyn, a gofyn i’r protestwyr dynnu baner oddi ar y wal flaen.

Gofynnodd golwg360 i reolwraig arall ddaeth allan am ei hymateb i’r brotest, ond doedd ganddi ddim sylw i’w roi.

Y lladdedigion

Mae gweithredoedd milwrol Israel yn Gaza wedi lladd o leiaf 34,183 o bobol ar ôl 200 diwrnod o ryfel, yn ôl Gweinidogaeth Iechyd Gaza.

Mae 14,778 o’r rheiny yn blant.

Dechreuodd Israel eu cyrch ar lain Gaza ar Hydref 27, yn dilyn ymosodiad y grŵp militaraidd Palesteinaidd Hamas ar gymunedau yn Israel ar Hydref 7, lle cafodd 1,200 o bobol eu lladd.

Mae yna gynnydd yn y feirniadaeth ryngwladol tuag at Israel oherwydd niferoedd uchel y marwolaethau yn y rhyfel, yr argyfwng newyn yn Gaza, a honiadau bod ymdrechion i gludo cymorth yn cael eu rhwystro.

Bydd bws yn teithio o ogledd Cymru i’r orymdaith fawr dros Balesteina yn Llundain ddydd Sadwrn, yn gadael Caernarfon am 5.55yb.

Mae nifer o wylnosau heddwch yn cael eu cynnal mewn nifer o drefi ar hyd Cymru.

Yn yr wylnos ar faes Pwllheli nos Iau, Mai 2 am 6 o’r gloch, fe fydd anerchiadau gan Liz Saville Roberts, Hywel Williams a Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru.