Mae un o aelodau amlycaf tîm Syr Keir Starmer yn cael ei herio am ei sedd yn San Steffan gan ymgeisydd sy’n addo “rhoi Torfaen ar yr agenda”.
Bu Nick Thomas-Symonds yn cynrychioli’r etholaeth ers 2015, ac mae’n aelod heb bortffolio o gabinet cysgodol Llafur.
Mae Matthew Jones, un o drigolion Cwmbrân, wedi’i ddewis gan Blaid Cymru i fod yn ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol sydd ar y gorwel eleni ac sy’n gorfod cael ei gynnal cyn diwedd mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Dywed ei fod e eisiau bod yn y senedd i “siarad am y materion mae pobol yn eu codi yn Nhorfaen”.
Dywed y gŵr 35 oed ei fod e’n cydnabod fod “pob pôl piniwn dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy” wedi awgrymu mai Llafur fydd yn ffurfio Llywodraeth nesa’r Deyrnas Unedig, ond mae’n gwrthod yr awgrym y bydd trigolion yn cael eu gwthio i’r cyrion drwy ethol aelod seneddol i eistedd ar feinciau’r gwrthbleidiau yn hytrach na bod yn aelod tebygol o’r Cabinet.
“Fyddai e ddim yn llais ar y cyrion heb ddylanwad,” meddai.
“Mae’n dibynnu ar faint y mwyafrif, ond os edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, mae pleidleisiau wedi cael eu hennill o dair neu bedair pleidlais, ac mae Plaid Cymru wedi cael tri neu bedwar aelod seneddol yn y cyfnod hwnnw, felly mae e’n cael dylanwad ac fe all sefyll i fyny dros y cymunedau a’r bobol rydyn ni’n eu cynrychioli, yn wahanol i aelod seneddol Llafur sy’n gorfod gwneud yr hyn mae Keir Starmer yn ei ddweud ac wedi bod yn gwneud yr hyn mae Keir Starmer yn ei ddweud.
“Bydd unrhyw un yn Nhorfaen sydd eisiau newid positif ac aelod seneddol fydd yn siarad am Dorfaen drwy’r amser ac yn rhoi Torfaen ar yr agenda yn y senedd yn cael hynny gen i.”
Y sefyllfa bresennol yn Nhorfaen
Mae Torfaen wedi bod yn nwylo Llafur ers i’r etholaeth gael ei chreu yn 1983, a chyn hynny dim ond y blaid honno oedd wedi ennill yn etholaeth Pont-y-pŵl, gan ethol yr aelod seneddol dylanwadol Leo Abse a Paul Murphy, oedd yn weinidog ac yn aelod o Gabinet Tony Blair a Gordon Brown.
Bydd yr etholiad sydd i ddod yn cael ei frwydro ar sail ffiniau sydd wedi cael eu hail-lunio, gyda rhannau o Groesyceiliog, Llanfrechfa a Phonthir a Llanyrafon yn symud o etholaeth Geidwadol Mynwy i Dorfaen.
Fe wnaeth mwyafrif Nick Thomas-Symonds leihau o 10,240 yn etholiad cyffredinol 2017 gafodd ei ysbrydoli gan Jeremy Corbyn i ddim ond 3,742 yn 2019, sef buddugoliaeth leia’r blaid erioed yn y sedd.
Pleidleisiodd bron i 60% o drigolion Bwrdeistref Sirol Torfaen o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.
Mae’r bleidlais Geidwadol hefyd wedi bod yn tyfu dros y degawd diwethaf, gan ddewis Nathan Edmunds o Gwmbrân fel ymgeisydd.
Gorffennodd Plaid Brexit – neu Reform erbyn hyn – yn drydydd yn 2019, ac roedd cyfanswm y pleidleisiau gawson nhw a’r Ceidwadwyr yn fwy na chyfanswm Nick Thomas-Symonds.
“Mae pobol yn galw allan am newid, ac mae angen newid positif arnon ni; pe baech chi’n cael aelod seneddol Torïaidd, dydych chi ddim yn cael hynny, a fyddai aelod seneddol Reform ddim yn gwneud hynny chwaith,” meddai Matthew Jones, ymgeisydd Plaid Cymru.
Mae Matthew Jones yn byw â’i bartner yng Nghwmbrân, ac mae’n gweithio i Blaid Cymru yn y Senedd, ac fe wnaeth e fynychu Ysgol Gwynllyw.