Mae un o weinidogion Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn destun gwawdio, ar ôl dangos ar y teledu nad yw’n deall y gwahaniaeth rhwng Rwanda a’r Congo.

Cafodd cwestiwn ei godi ynghylch cynllun Rwanda y llywodraeth, a’r ffaith fod y ddwy wlad mewn rhyfel yn erbyn ei gilydd.

Roedd aelod o’r gynulleidfa’n gofyn a fyddai rhywun o’r Congo, yn ôl y cynllun, yn gallu cael eu hanfon yn ôl i Rwanda pe baen nhw’n cael eu halltudio ar ôl cyrraedd glannau gwledydd Prydain.

Chris Philp, y Gweinidog Plismona, oedd yn cynrychioli’r llywodraeth ar raglen Question Time y BBC neithiwr (nos Iau, Ebrill 25).

“Dw i’n credu bod yna eithriad o ran pobol o Rwanda yn cael eu hanfon i Rwanda,” meddai’r gweinidog.

“Dydyn nhw ddim yn dod o Rwanda, maen nhw’n dod o’r Congo,” meddai’r aelod o’r gynulleidfa.

“Ac maen nhw mewn rhyfel yn erbyn Rwanda.

“Ydyn nhw wedyn yn mynd i gael eu hanfon i Rwanda pe baen nhw’n croesi drosodd yma?

“O’r Congo?” gofynnodd Chris Philp. “A fydden nhw’n cael eu hanfon… mae Rwanda yn wlad wahanol i’r Congo, on’d yw hi?

“Ydy mae hi,” meddai’r gyflwynwraig Fiona Bruce, wrth i’r gynulleidfa chwerthin a Wes Streeting, yr aelod seneddol Llafur, yn edrych yn anghrediniol.

‘Tu hwnt i barodi’

“Tu hwnt i barodi” oedd disgrifiad Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, o’r drafodaeth.

“Dydy gweinidog y Llywodraeth Dorïaidd ddim yn gwybod a yw Rwanda a Gweriniaeth Ddemocrataidd yn ddwy wlad.

“Pleidleisiodd e dros ddeddfwriaeth pan nad oedd ganddo fe afael ar y ffeithiau symlaf, mwyaf elfennol, heb sôn am ddeall cymhlethdodau’r problemau.”

Yr un oedd ymateb Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Mae aelodau seneddol Torïaidd yn credu eu bod nhw’n gwybod yn well na’r Goruchaf Lys wrth bleidleisio fod Rwanda yn ddiogel,” meddai.

“Ond dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gallu pwyntio ati ar fap.”

“Waw” meddai Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru wrth ymateb.

Rwanda na Chwm Rhondda

Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, wedi ymateb hefyd.

“Dydy Chris Philp ddim yn gwybod lle mae Rwanda,” meddai.

“Am wn i, does dim clem ganddo fe am y Rhondda chwaith.”