Wrth i Gatalwnia baratoi i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol ar Fai 12, mae’r rhagolygon yn awgrymu y gallai’r pleidiau dros annibyniaeth golli eu mwyafrif yn y senedd.
Enillodd Esquerra Republicana, Junts per Catalunya a’r CUP gyfanswm o 74 sedd yn 2021, ond mae disgwyl i’r ffigwr ostwng o dan 68, y ffigwr allweddol, y tro hwn.
Yn ôl y rhagolygon, gallai’r Sosialwyr, o dan arweinyddiaeth Salvador Illa, ennill 40 allan o 135 o seddi.
Er iddo fe ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau yn 2021, llwyddodd Esquerra a Junts i ddod i gytundeb er mwyn ethol Pere Aragonès, arweinydd Esquerra, yn arlywydd.
Roedd Junts yn rhan o’r llywodraeth tan fis Hydref 2022, pan arweiniodd pleidlais hyder yn eu partneriaid yn y glymblaid at bleidlais fewnol dros adael y cytundeb, a gadael Esquerra yn blaid lywodraeth leiafrifol.
Bydd pob un o’r arweinwyr yn sefyll eto, sef Illa, Aragonès, Ignacio Garriga (Vox), Jéssica Albiach (Comuns Sumar), Carlos Carrizosa (Ciudadanos), ac Alejandro Fernández (Plaid y Bobol).
Er mai Carles Puigdemont oedd ymgeisydd Junts yn 2021, Laura Borràs oedd ymgeisydd y blaid ar gyfer yr arlywyddiaeth.
‘Symud ymlaen’
Mae’r Sosialwyr yn sefyll dros “symud ymlaen” o’r ymgyrch dros annibyniaeth a chreu “dechreuad newydd” gyda llywodraeth sefydlog, wrth iddyn nhw eu portreadu eu hunain fel cynghreiriaid i’r llywodraeth bresennol.
Ond diffyg cefnogaeth Comuns Sumar i gynllun gwariant y llywodraeth arweiniodd at alw etholiad brys.
Yn y cyfamser, mae Plaid y Bobol yn awyddus i ddychwelyd i’r rheng flaen, ac mae polau piniwn yn awgrymu y gallen nhw ychwanegu deg sedd at y tair sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.
Maen nhw’n feirniadol o gytundebau’r Prif Weinidog Pedro Sánchez â’r pleidiau annibyniaeth ar faterion megis yr amnest ar gyfer arweinwyr yr ymgyrch dros annibyniaeth yn 2017.
Dydy’r rhagolygon ddim yn edrych yn arbennig o ffafriol i Ciudadanos, oedd yn blaid gref yn 2017 oedd wedi ennill chwe sedd yn unig yn 2021, ac fe allen nhw golli’r rheiny y tro hwn.
I’r gwrthwyneb, mae disgwyl i Vox gryfhau eu lle yn y senedd.
Dyfodol ansicr i Pedro Sánchez
Wrth i’r ymgyrchu boethi, mae Pedro Sánchez yn wynebu dyfodol ansicr yn sgil honiadau o lygredd yn erbyn ei wraig.
Mae’r honiadau’n cael ei ystyried gan rai fel ymgais i’w bardduo fe a’i blaid.
Mae e eisoes wedi cyhoeddi ei fod e am gael seibiant o wleidyddiaeth er mwyn ystyried ei ddyfodol, wrth i Esquerra ei gyhuddo o fod yn “wan” yn erbyn ffasgiaeth.