Mae merch 13 oed wedi’i chadw yn y ddalfa ar ôl cael ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobol yn Ysgol Dyffryn Aman.

Aeth y ferch, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol, gerbron Llys Ynadon Llanelli fore heddiw (dydd Gwener, Ebrill 26) i wynebu’r cyhuddiadau.

Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o fod â llafn mewn lle cyhoeddus.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysgol fore dydd Mercher (Ebrill 24), yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad yno.

Cafodd dwy athrawes a disgybl eu cludo i’r ysbyty, ond maen nhw bellach wedi cael mynd adref.

Cafodd y ferch 13 oed ei harestio ar dir yr ysgol, ac roedd ganddi gyllell yn ei meddiant ar y pryd.

Wrth fynd gerbron ynadon, cadarnhaodd ei henw, ei chyfeiriad a’i hoedran.

Ond dydy hi ddim wedi cyflwyno ple eto, ac mae hi wedi’i chadw yn y ddalfa mewn cyfleuster i bobol ifanc tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar Fai 27.