Mae cynllunwyr cyngor wedi gwrthod cais ysgol gynradd i ehangu eu cegin.

Roedd Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell yng Nghaerffili yn awyddus i ychwanegu “estyniad parod bach” at eu safle “i dyfu cyfleusterau cegin bresennol yr ysgol”.

Ond dywed swyddogion cynllunio fod yr ysgol wreiddiol “eisoes wedi cael ei hymestyn sawl gwaith dros gan metr sgwâr”.

Mae nifer o “ychwanegiadau modern” wedi cael eu hadeiladu ar safle’r ysgol, sy’n wynebu Heol Trecastell, meddai cynllunwyr y cyngor yn eu hadroddiad.

Roedd y cais i ymestyn y safle ymhellach yn golygu y byddai’r ysgol yn “mynd tu hwnt” i drothwyon cynllunio.

O ganlyniad, fe wnaeth y Cyngor wrthod cais yr ysgol am dystysgrif datblygiad cyfreithlon er mwyn ymestyn y gegin.

Yn hytrach, bydd yn rhaid i’r ysgol gael caniatâd cynllunio penodol os ydyn nhw am barhau â’r cynigion maen nhw wedi’u cyflwyno.