Mae 92% o’r rhai bleidleisiodd ym mhôl piniwn golwg360 yn credu y dylai Cymru gael diwrnod Gŵyl Banc i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Cafodd ein pôl ei gynnal ar ein tudalennau X (Twitter gynt) ac Instagram dros gyfnod o 24 awr ddoe (dydd Iau, Ebrill 25) a heddiw (dydd Gwener, Ebrill 26).

Roedd y bleidlais bron yn gwbl unfrydol ar Instagram (98%), tra bod 89.6% o blaid ar X.

Mae’r ffigwr wedi codi o 90.4% ers ein pôl diwethaf ar X ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.

Tro pedol

Fe wnaethon ni gynnal y pôl ar ôl iddi ymddangos bod Syr Keir Starmer wedi cefnu ar addewid blaenorol ei blaid i wneud diwrnod ein nawddsant yng Nghymru – a nawddsaint gwledydd eraill Prydain – yn ddiwrnod Gŵyl Banc.

Daeth yr addewid gan Jeremy Corbyn, rhagflaenydd yr arweinydd presennol.

Ond mae’r arweinydd presennol bellach yn dweud y byddai’n “dechrau o’r dechrau”, ac yn rhoi’r gorau i’r ymgyrch ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a Dydd San Siôr pe bai ei blaid yn dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae Dydd San Andreas eisoes yn ŵyl banc yn yr Alban.

Eisoes, mae deiseb i sicrhau bod Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn ddiwrnod gŵyl banc wedi denu dros 10,000 o lofnodion.