Mae Vaughan Gething wedi ategu iddo “ddilyn y rheolau” ynglŷn â’r £200,000 gafodd ei roi gan Dauson Envrionmental Group yn ystod ei ymgyrch i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Gwnaeth e’r sylwadau gerbron y Pwyllgor Craffu yn y Senedd heddiw (dydd Gwener, Ebrill 26).

Roedd Prif Weinidog Cymru’n ymateb i gwestiynau gan Llŷr Gruffydd ynghylch pam ddewisodd o dderbyn y rhoddion ariannol gan y cwmni.

“Mae’n fusnes sydd yn rhan o fy etholaeth i, sydd ddim jest wedi cyflogi aelodau o fy etholaeth, ond sydd hefyd wedi gwella sut maen nhw’n gweithredu wrth fynd i’r afael â’r materion llywodraethu rheoleiddiol,” meddai Vaughan Gething.

“Rwy’ wedi bod yn glir y bydd cynnydd mewn safonau [amgylcheddol], felly pan fydd bil llywodraethu amgylcheddol o flaen y Senedd yn ystod y tymor olaf, fydd o ddim yn cael ei newid neu ei ddyfrio i lawr.”

Pwysau oddi mewn

Yn dilyn rhaglen Y Byd yn ei Le neithiwr (nos Iau), mae Vaughan Gething wedi bod o dan bwysau o fewn ei blaid ei hun, gyda Beth Winter, Aelod Seneddol Cwm Cynon, yn gofyn am ymchwiliad annibynnol i’r sefyllfa.

Daw hynny ar ôl i Jeremy Miles, Ysgrifennydd yr Economi, ddweud na fyddai wedi derbyn y rhodd o dan yr amgylchiadau pe bai yn yr un sefyllfa.

“Pam ydyn nhw [aelodau Llafur] i gyd yn anghywir a’ch bod chi’n iawn? Wrth edrych yn ôl, mae’n siŵr eich bod ag elfen ohonoch sydd yn difaru cymryd yr arian yna?”, gofynnodd Llŷr Gruffydd.

“Dwi’n meddwl mai’r her yma ydi’r ffaith ein bod yn gallu siarad am y mater drosodd a throsodd, a dw i’n deall pam fyddai rhai pobol eisiau gwneud hynny,” meddai’r Prif Weinidog.

“Dwi ddim wedi gwneud dim byd tu allan i’r rheolau.

“Os ydych chi eisiau dweud bod cwestiynau am fy uniondeb, mae’n rhaid i chi restru beth ydyn nhw, neu rydych yn anghytuno ac mae pobol yn anghytuno â’r ffordd mae gwleidyddiaeth yn cael ei hariannu heddiw.”

Bydd cwestiynau ynghylch y rhoddion i’r Prif Weinidog yn parhau yr wythnos nesaf, pan fydd dadl yn cael ei chyflwyno gan y Blaid Geidwadol ddydd Mercher (Mai 1) er mwyn ceisio penodi ymchwilydd annibynnol ar gyfer unrhyw wrthdaro buddiannau posib yn ymwneud â’r rhoddion.