Mesurau cyfnod clo Covid-19 sydd wedi cael y bai am gwymp yn nifer y disgyblion sy’n dechrau addysg Gymraeg yn Wrecsam.
Mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi gan Gyngor Wrecsam yn dangos bod 181 o blant yn eu blwyddyn gyntaf yn cael addysg Gymraeg yn 2022, sy’n cyfateb i 12.4% o holl ddisgyblion Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Roedd hyn o gymharu â 213 o blant (14.3%) o’r un oedran yn cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg y flwyddyn gynt.
Dywed swyddogion addysg fod lle i gredu bod y gwymp o ganlyniad i ddisgyblion o deuluoedd di-Gymraeg yn dysgu gartref yn ystod y pandemig, oedd yn golygu nad oedd modd iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg mor aml.
Mae adroddiad i gynghorwyr yn dangos bod nifer y plant yn Wrecsam sy’n dechrau addysg Gymraeg bellach wedi dychwelyd i lefelau tebyg i 2021.
Cynlluniau i ehangu addysg Gymraeg
Cafodd y mater ei godi gan Corin Jarvis, Cynghorydd Llafur Gwaunyterfyn a Maesydre, yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg Gydol Oes y Cyngor, wrth i aelodau drafod cynlluniau i ddatblygu addysg Gymraeg.
“Cafodd ei heffeithio’n fawr iawn gan Covid,” meddai Dafydd Ifans, y swyddog addysg, wrth ymateb.
“Un o’r pethau ddaru ddigwydd yn ystod Covid gafodd effaith arbennig ar y sector Cymraeg oedd fod rhai plant gartref efo’u rhieni, oedd yn siarad Saesneg.
“Roedd rhai ohonyn nhw wedi adrodd eu bod nhw wedi’i chael hi’n anodd cefnogi eu plant yn ystod yr amser hwnnw, a bod hynny wedi cael effaith bellach yn nhermau’r niferoedd oedd yn dod drwodd i ysgolion Cymraeg.
“Mae llawer o waith caled wedi digwydd ers hynny, gan aelodau’r Fforwm Addysg Gymraeg, i annog rhieni i wneud y dewis hwnnw, ac rydyn ni’n gweld hynny’n dwyn ffrwyth.”
Cymraeg 2050
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu eu cynlluniau i gynyddu nifer y siaradwr Cymraeg i un miliwn erbyn 2050.
Mae cynllun y Cyngor yn amlinellu sut maen nhw’n bwriadu gwella safonau mewn darpariaeth Gymraeg, a hefyd o ran addysgu Cymraeg.
Cafodd effaith y pandemig Covid-19 ar nifer y disgyblion sy’n dechrau addysg Gymraeg ei nodi’n flaenorol gan gorff arolygu Estyn.
“Effeithiwyd yn negyddol ar allu a pharodrwydd dysgwyr i ddefnyddio Cymraeg llafar gan gyfnodau hir o ddiffyg cyswllt â’r iaith,” meddai adroddiad ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021-22.
“Mewn darparwyr cyfrwng Cymraeg a Saesneg, nid oedd gan lawer o ddysgwyr yr hyder i siarad Cymraeg wrth iddynt ddychwelyd, gan mai drwy eu darparwr addysgol fu eu prif gyswllt â’r iaith erioed.
“Mewn ysgolion uwchradd yn benodol, bu dirywiad cyffredinol yn y defnydd o’r Gymraeg rhwng cyfoedion.
“Rhoddodd llawer o ddarparwyr cyfrwng Cymraeg bwyslais cryf ar wella Cymraeg llafar dysgwyr, a chafodd hynny effaith gadarnhaol.”