Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £40m ychwanegol i fynd i’r afael â digartrefedd.

Yn ystod y clo mawr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi diogel a sefydlog i bobol i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n mynd yn ddigartref.

Roedd cam cyntaf ymateb Llywodraeth Cymru i ddigartrefedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bawb lety lle y gallen nhw hunanynysu.

Fis Mawrth, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion gan arbenigwyr ar sut i roi terfyn ar ddigartrefedd.

Cafodd £10m ei wario i ddarparu llety brys i dros 800 o bobol.

Mae’r ail gam yn canolbwyntio ar ddull gweithredu hirdymor o ailgartrefu pobol oedd wedi cael lloches frys.

Yn ogystal â’r £10m cychwynnol, mae’r Llywodraeth wedi rhoi £40m ychwanegol i awdurdodau lleol i fynd i’r afael â hyn.

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd estyniad dros dro ei gyflwyno i’r cyfnod rhybudd ar gyfer troi allan, er mwyn darparu mwy o ddiogelwch rhag digartrefedd i denantiaid mewn llety preifat.

‘Dileu digartrefedd’

Eglura Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, mai ei nod yw “dileu digartrefedd yng Nghymru”.

“Mae’r coronafeirws wedi tynnu sylw at dai mewn ffordd nad oes llawer ohonom wedi’i gweld o’r blaen,” meddai.

“Mae wedi’n hatgoffa i gyd o bwysigrwydd sylfaenol tai fforddiadwy o ansawdd da, cartrefi diogel a sefydlog a chymunedau cryf a chydlynol y mae pobol eisiau byw a gweithio ynddyn nhw.

“Y ffordd orau i ni fynd i’r afael â digartrefedd yw drwy ei atal yn y lle cyntaf.

“Dw i wedi dweud yn glir nad ydw i eisiau gweld neb yn gorfod dychwelyd i’r strydoedd.

“Mae gennym gyfle unigryw i newid y gwasanaethau a newid bywydau er gwell.

“Rydyn ni eisiau adeiladu ar y llwyddiant a welsom hyd yma a newid dull Cymru o weithredu ynghylch digartrefedd yn y tymor hir.”